Rachel Hubbard

Photograph of Rachel Hubbard.

Rheolwr Aelodaeth

Cyswllt

E-bost: rrh@aber.ac.uk

Ffôn: 01970 622 278

Bywgraffiad

Fel aelod o Dîm Rheoli’r Ganolfan Chwaraeon, gyda chyfrifoldeb dros Aelodaeth, mae Rachel a’i thîm ar gael i drafod eich anghenion aelodaeth, gan gynnwys pecynnau personol a chorfforaethol.

Diwrnod Oriau
Dydd Llun
10.15pm - 1.00pm
Dydd Mawrth
9.00am - 1.00pm
Dydd Mercher
9.00am - 1.00pm
Dydd Iau
1.00pm - 6.30pm
Dydd Gwener
1.00pm - 3.00pm

Graddiodd Rachel ym maes Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer o Brifysgol Aberystwyth ac mae’n chwarae rôl weithredol i gefnogi iechyd a ffitrwydd y staff, y myfyrwyr a’r gymuned. Mae’n cydgysylltu digwyddiadau fel “Ffit ac Iach”, yn darparu Hyfforddiant Personol ac yn arwain dosbarthiadau grŵp. Mae hi’n Hyfforddwr Lefel 3 Uwch ar gyfer y Gampfa, ETM a Pilates, ac mae ganddi gymwysterau eraill ym maes Ffit-bêl, Step, Ymarferion Cylch, Muscle Max, Atgyfeiriadau Ymarfer, Maeth, Profi Ffitrwydd, Beicio Stiwdio Dan Do, Cerdded i fod yn Iach, Gofal Cyn/Ôl-enedigol, a Rheoli Straen. Ar hyn o bryd, mae’n astudio i gael cymhwyster Ymarferydd Gofal Cefn Lefel 4.

Tu allan i’r Brifysgol, mae Rachel yn ddilysydd ac asesydd mewnol ar gyfer Ffitrwydd Cymru (corff llywodraethu chwaraeon ac ymarfer Cymru) ac yn Gyfarwyddwr Cwrs ar gyfer cyrsiau hyfforddwyr ffitrwydd Lefel 3. Gyda thros 22 mlynedd o brofiad dysgu, mae Rachel yn dod â chyfoeth o wybodaeth, hwyl ac arweiniad i’w sesiynau.