Defnyddio'r Ganolfan Chwaraeon

Yn y Ganolfan Chwaraeon, rydym yn credu’n gryf ein bod yn darparu’r gwasanaeth iechyd ac ymarfer corff gorau yn yr ardal. Ni all unrhyw ganolfan leol arall gynnig yr un ystod o gyfleusterau a gwasanaethau â ni ac, o gyplysu hyn â’n staff cymwysedig, mae bob amser rhywbeth ar gael i gymryd rhan ynddo neu rywun ar gael i gael cyngor ganddo. Yn ogystal â’r Gampfa a’r Pwll,rydym yn darparu ystod o gyfleusterau a gwasanaethau eraill i’ch helpu i gyrraedd eich targedau, p’run a ydych yn ceisio cyrraedd lefel ffitrwydd benodol neu am gael amser da mewn awyrgylch cyfeillgar a hwyliog.      

Ateb eich Gofynion Chi

Rydym yn cynnig nifer o wahanol Becynnau Aelodaeth ac yn credu bod rhywbeth ar gael i bawb. Mae ein dewisiadau hyblyg yn golygu na fyddwch ond yn talu am yr hyn sydd ei eisiau arnoch. Gallwn roi cyngor i chi ynghylch dewis yr opsiwn aelodaeth sy’n addas i chi dros y ffôn (01970 621 500) neu drwy’r e-bost (sports@aber.ac.uk).                                            

Oriau Agor

Diwrnod
 Y Ganolfan Chwaraeon yn gyffedinol
Y Gampfa
Y Pwll
Dydd Llun - Dydd Gwener
 9am - 10pm
 7.15am - 9.15pm
 Ar agor o 7.15am i rai sydd am nofio'n gynnar yn y bore

Cewch gipolwg ar amserlen y pwll.

 


Dydd Sadwrn
 8am - 4.30pm
 8am - 4pm
 Ar agor o 8am i rai sydd am nofio'n gynnar yn y bore.

 

 

Cewch gipolwg ar amserlen y pwll.

 


 Dydd Sul
 9am - 4.30pm
 9am - 4pm
 Ar agor o 9am i rai sydd am nofio'n gynnar yn y bore.

Cewch gipolwg ar amserlen y pwll.