Croeso gan Gyfarwyddwr AD, Ms Sue Chambers
Croeso cynnes iawn i'r wefan i weithwyr newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mewn digwyddiadau cynefino i staff rydym wedi cael adborth gan staff newydd a oedd yn awgrymu y byddai cyngor am y brifysgol a'r ardal wedi bod yn ddefnyddiol cyn iddynt ddechrau gweithio yma. Yn aml roedd tipyn o fwlch rhwng derbyn y swydd a dechrau gweithio yn y Brifysgol, a byddai mwy o gyfathrebu wedi bod yn ddefnyddiol. O ganlyniad i'r sylwadau a gafwyd, lluniwyd y gweddalennau hyn er mwyn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i baratoi ar gyfer cyrraedd Aberystwyth.
Mae'r wybodaeth wedi'i rhannu'n ddwy ran:
- Gwybodaeth am y brifysgol, a;
- Gwybodaeth am dref a chyffiniau Aberystwyth, gan gynnwys dolenni i safleoedd sy'n rhoi gwybodaeth am lety ac ysgolion.
Os nad yw'r wybodaeth a'r cyngor sydd ei angen arnoch ar gael yn y tudalennau hyn mae croeso i chi ofyn i'ch rheolwr llinell neu'r tîm Adnoddau Dynol.
Hoffwn eich cyfeirio'n benodol at ddau becyn hyfforddi e-ddysgu am Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd a Chydraddoldeb ac Amrywioldeb yn ôl eu trefn. Dyma ddau faes pwysig yng ngweithgaredd y brifysgol y bydd yn rhaid i chi ymgyfarwyddo'ch hun â hwy. Gofynnir i staff gwblhau'r hyfforddiant hwn yn rhan o'u proses gynefino ond rydym yn aml yn gweld, er bod gan staff newydd fwriadau da i gwblhau'r pecynnau hyfforddi hyn yn ystod eu mis cyntaf o weithio yma, eu bod yn ymdrochi yn eu swyddogaethau a'u cyfrifoldebau ac felly'n ei chael hi'n anodd neilltuo amser i gwblhau'r hyfforddiant. Efallai, felly, y byddai'n fwy cyfleus i chi gwblhau un o'r pecynnau hyfforddi, neu'r ddau ohonynt, ar-lein cyn dechrau gweithio yma. Ceir y dolenni perthnasol uchod.
Rydym wrth ein bodd eich bod wedi dewis gweithio i Brifysgol Aberystwyth ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu i'n cymuned. Gobeithio y gwnaiff y gweddalennau hyn eich helpu chi yn y pen draw i ymgynefino â bywyd yn y Brifysgol.
Edrychaf ymlaen at gwrdd â chi yn nigwyddiad Croesawu nesaf y Brifysgol.
Gyda phob dymuniad da
Sue Chambers