Cwblhau'r Broses Gynefino
Tasgau Hanfodol
Yn rhan o'r broses gynefino mae'n ofynnol yn ôl eich contract eich bod yn cwblhau'r tasgau canlynol:
I'w cwblhau o fewn pythefnos i ddechrau gweithio:
- Cael y cynllun cynefino wedi’i deilwra gan eich adran ar gyfer eich swydd benodol chi.
- Datganiad Cynefino Prifysgol Aberystwyth: rhaid i chi a'ch adran gadw copïau o'r ddogfen hon a dylid anfon copi i Adnoddau Dynol.
- Mewngofnodi i'r system Hunanwasanaeth a fydd yn eich galluogi i edrych, golygu a chynnal manylion penodol a gedwir amdanoch yn ddiogel, ar system AD a Chyflogau.
- Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd: Mae'n rhaid i'r holl staff gwblhau Adroddiad Cynefino S010
- Cwrs E-Ddysgu am Amrywiaeth yn y Gweithle
I'w gwblhau o fewn chwe wythnos i ddechrau gweithio
- Cwblhau Compact Cyfnod Prawf (staff academaidd ac academaidd-berthynol yn unig)