Gweithio i Brifysgol Aberystwyth
Croeso i Brifysgol Aberystwyth! Gobeithio y bydd gweithio i'r Brifysgol yn brofiad cadarnhaol a chroesawgar.
Yn Aberystwyth rydym yn gwbl ymroddedig i hyrwyddo amrywioldeb a chyfle cyfartal. Mae ein Cynllun Cydraddoldeb yn dweud bod “cydraddoldeb ac amrywioldeb wrth graidd amgylchedd cynhwysol a chefnogol lle mae urddas, parch a chydweithredu yn rhan hanfodol o’n holl weithgareddau, ynghyd â chefnogi cyfleoedd i bawb gyflawni eu potensial i’r eithaf". I weld sut yr ydym yn gwerthfawrogi amrywioldeb ein staff, myfyrwyr a chymuned, edrychwch ar ein fideo cydraddoldeb byr.
Teimlwn hefyd bod arweinyddiaeth ac ymrwymiad effeithiol ar bob lefel ac ym mhob agwedd ar weithgareddau'r Brifysgol, yn hanfodol i sicrhau llwyddiant ein gwaith. Ein nod yw cefnogi anghenion grwpiau gwahanol mewn diwylliant gwaith lle caiff parch a dealltwriaeth eu meithrin a lle caiff amrywioldeb y gymuned ei werthfawrogi'n gadarnhaol. Mae tudalennau Cefnogaeth i Staff Adnoddau Dynol yn ceisio hyrwyddo ein hamgylchedd cadarnhaol ac yn rhoi cymorth i'n staff i alluogi i bawb wneud yn fawr o'u potensial er budd yr unigolyn a'r Brifysgol. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o rwydweithiau a hyrwyddwyr staff.
Isod cewch wybodaeth am sut mae'r Brifysgol yn cefnogi staff, gan gynnwys gwybodaeth benodol i staff academaidd, a gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i'ch helpu i ymgartrefu yn y Brifysgol.
Os bydd arnoch angen unrhyw gymorth mae croeso i chi gysylltu ag Adnoddau Dynol ar hr@aber.ac.uk neu ffoniwch ni ar (01970) 628555.
Olymbia Petrou, Ymgynghorydd Cydraddoldeb
Tudalennau Cefnogaeth i Staff
- Cymorth gyda Iechyd ac Anableddau
- Cymorth yn y Gwaith
- Cymorth gyda Gofal plant
- Cymorth gyda Hyfforddi a Chymwysterau
- Rhwydweithiau a Hyrwyddwyr
- Cymorth gyda Ffordd o Fyw
- Cymorth ar gyfer Ymddeol
- Cysylltiadau Cymdeithasol a Chymunedol
Gwybodaeth Ddefnyddiol
- Materion Academaidd -gwybodaeth i staff academaidd
- Gwybodaeth i Staff - tudalennau staff
- Hunanwasanaeth - mynediad i'ch cofnod staff personol