Cynllun Strategol 2009 - 2013
Cenhadaeth
Ein cenhadaeth yw parhau i fod yn Brifysgol sy’n gallu cystadlu’n rhyngwladol o safbwynt dysgu ac addysgu, sy’n ymdrin â heriau byd-eang ac sy’n ymateb i anghenion y gymuned leol, Cymru a’r byd yn ehangach.
Er mwyn cyflawni ein cenhadaeth, dyma yw ein nod:
- rhoi cyfleoedd dysgu o’r ansawdd uchaf i fyfyrwyr a chynnig amgylchedd arbennig i astudio ynddo;
- ymateb i’r newid yn anghenion cymdeithas am raddedigion medrus, hyddysg sy’n addas i’w cyflogi;
- cynhyrchu ymchwil o ansawdd uchel sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol, gan ymateb i anghenion deallusol, diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd;
- gweithio mewn partneriaeth i wasanaethu’r gymuned, y DU, Ewrop a’r byd yn ehangach;
- chwarae rhan lawn yn natblygiad cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd Cymru, gan gynnwys cefnogi’r iaith Gymraeg.
Er mwyn cyflawni’r amcanion hyn, mae’r Brifysgol wedi nodi deg nod strategol, ac ymhelaethir ar y rhain yn ei chynlluniau.
Blaenoriaethau all weddol ar gyfer y cyfnod cynllunio
Mae’r Brifysgol wedi nodi nifer o flaenoriaethau allweddol ar gyfer y cyfnod cynllunio presennol. Bydd dull y Brifysgol o ymdrin â’r blaenoriaethau hynny yn cael ei lywio gan yr angen i sicrhau ei bod yn gynaliadwy dros y pum mlynedd nesaf a’r tu hwnt. Ymhelaethir ymhellach ar y blaenoriaethau hyn ym mhrif destun y cynllun hwn, lle cânt eu rhoi yng nghyd-destun y nodau strategol a bennwyd ar gyfer y Brifysgol.
i. Ymateb i’r amgylchedd allanol
Mae gan y Brifysgol swyddogaeth o bwys i’w chwarae wrth gyfrannu at ddatblygiad a llwyddiant AU yng Nghymru ac yn enwedig wrth gefnogi datblygiad economaidd, diwylliannol a chymdeithasol Cymru. Er mwyn cyflawni’r swyddogaeth hon ac ymateb i heriau yr amgylchedd y mae’n gweithredu ynddo, sy’n newid yn barhaus, mae’r Brifysgol wedi datblygu prosesau cadarn i fonitro ei pherfformiad. Bydd y rhain hefyd yn cynorthwyo’r Brifysgol i ganfod ffyrdd o barhau i ehangu a datblygu ei gweithgareddau a sicrhau’r safle gorau yn y farchnad, gan ymateb i’r newid yn anghenion a blaenoriaethau ei phrif randdeiliaid a sicrhau dyfodol cynaliadwy. Dyma’r blaenoriaethau y mae’r Brifysgol wedi’u nodi ar gyfer y cyfnod cynllunio presennol:
- Mynd i’r afael â’r gostyngiadau posibl mewn gwariant cyhoeddus fel y gallent gael eu trosglwyddo i’r sector AU, gan gynnwys cynllunio ar sail toriad mewn gwariant o 5% o leiaf ledled gweithgareddau’r Brifysgol; a chefnogi adrannau unigol i ddatblygu’r strategaethau a’r prosesau angenrheidiol i ymgorffori’r gostyngiadau hyn.
- Monitro’r newidiadau economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol a demograffig yn yr amgylchedd allanol a allai effeithio ar allu’r Brifysgol i barhau i ddenu myfyrwyr; a sicrhau bod ei phrosesau denu myfyrwyr a’i strategaethau marchnata yn ymatebol ac wedi’u hariannu’n briodol er mwyn addasu i farchnad denu myfyrwyr sy’n newid.
- Monitro datblygiadau sy’n ymwneud â ffurf asesu ymchwil cenedlaethol yn y dyfodol, sef y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil; a sicrhau bod y dulliau mewnol o fonitro perfformiad ymchwil a chefnogi rhagoriaeth ymchwil yn rhoi’r Brifysgol mewn safle cryf i ymateb i ofynion y Fframwaith.
- Cyfrannu at gyflawni strategaeth Ymgeisio yn Uwch Llywodraeth Cynulliad Cymru mewn ffyrdd sy’n addas i’w chenhadaeth, gan gynnwys cwrdd â’r targedau penodol sydd wedi’u cynnwys yn nhemplad Ymgeisio yn Uwch, ac ymwneud â nifer o weithgareddau a fydd yn cynorthwyo i ymateb i flaenoriaethau Ymgeisio yn Uwch.
- Ymwneud ag agenda Cymru’n Un y Cynulliad Cenedlaethol, gan hyrwyddo a chyfrannu at flaenoriaeth ‘dysgu i fyw’ ac ymateb yn briodol i’r agenda Gweddnewid.
- Ymateb yn llawn i benderfyniadau LlCC, yn dilyn ei hystyriaeth o ganlyniadau’r Adolygiad Strategol o AU yng Nghymru.
- Parhau i gynnal a datblygu partneriaethau a threfniadau cydweithio addas gyda sefydliadau AU a chyrff eraill sector cyhoeddus a phreifat lle bydd cysylltiadau o’r fath yn gwella gweithgareddau addysgu, ymchwil, gweinyddu a thrydedd genhadaeth y Brifysgol.
ii. Cynaliadwyedd Ariannol
Gan weithredu o fewn hinsawdd ariannol sy’n destun newid sylweddol, bydd y Brifysgol yn parhau i reoli ei hadnoddau yn ofalus ac yn rhagweithiol, er mwyn sicrhau ei bod yn gallu cynnal ei gweithgareddau craidd a buddsoddi mewn datblygiadau ar gyfer y dyfodol. Bydd yn gweithio’n arbennig i sicrhau ei bod yn gallu deilo â newidiadau mewn cyllid a allai ddigwydd yn ystod y pum mlynedd nesaf a bydd yn parhau i geisio cynyddu incwm o ffrydiau incwm presennol a rhai newydd. Dyma’r blaenoriaethau a nodwyd ar gyfer y tymor canolig:
- Gweithredu polisïau sydd wedi’u cynllunio i sicrhau cynaliadwyedd ariannol y Brifysgol.
- Cynnal rheolaeth ariannol effeithiol ac effeithlon.
- Cynnal safle ariannol cadarn a sicrhau gwytnwch ariannol.
- Ehangu ar waith y Brifysgol o ran codi arian, gan geisio sicrhau llif cyllid gwaddol mwy cadarn a chynaliadwy.
- Parhau â’r broses o weithredu ein Strategaeth Ystadau ddeng mlynedd er mwyn cyfrannu at ein cynaliadwyedd yn y tymor hir.
Y brif her yn y tymor canolig yw sicrhau cynaliadwyedd economaidd gweithgareddau’r Brifysgol, er mwyn sicrhau gwytnwch ariannol a chynnal iechyd ariannol yng nghyd-destun y cyfyngiadau ariannol cynyddol sy’n cael eu rhoi ar wariant cyhoeddus. Bydd y Brifysgol yn ceisio cwrdd â’r heriau hyn drwy barhau i amrywio ei ffynonellau incwm, drwy gynyddu’r gyfran a ddaw o ffynonellau heblaw am y Cyngor Cyllido a thrwy barhau i weithredu mesurau rheoli ariannol caeth.
iii. Ymchwil
Mae ymchwil yn rhan hanfodol o genhadaeth a gwaith y Brifysgol. Mewn amgylchedd mwyfwy cystadleuol a dethol o ran cyllido, bydd y Brifysgol yn cyfuno uchelgais â realaeth yn ei gwaith cynllunio, gan ganfod meysydd lle mae ganddi fantais gystadleuol, meincnodi ei hun yn erbyn cymaryddion rhyngwladol a dilyn strategaeth integredig. Mae’r Brifysgol yn nodi’r blaenoriaethau canlynol ym maes ymchwil dros y pum mlynedd nesaf:
- Gweithredu’r strategaeth ddiwygiedig gyda’i hamcanion a’i thargedau cysylltiedig.
- Ymwneud ag ymchwil o ansawdd uchel sy’n gosod agendâu deallusol a pholisi ac sy’n denu rhagor o incwm gan Gynghorau Ymchwil a noddwyr eraill gwaith ymchwil.
- Sicrhau’r graddau uchaf posibl i PA yn y drefn a ddaw i ddilyn yr Asesiad Ymchwil, gan adeiladu ar sail y llwyddiant yn Asesiad Ymchwil 2008.
- Gweithredu nodau a chyflawni amcanion Partneriaeth Ymchwil a Menter Aberystwyth/Bangor a phrosiectau cydweithio eraill ym maes ymchwil o fewn a thu hwnt i Gymru.
- Manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil uno’r Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd â strwythur PA, gan greu rhagoriaeth ymchwil ac addysgu o fewn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig sydd newydd gael ei sefydlu.
- Parhau i ganfod a manteisio ar gyfleoedd i gydweithio.
- Pwysleisio effaith economaidd a chymdeithasol ymchwil ac ysgogi’r cysylltiadau rhwng ymchwil, mentergarwch ac arloesi.
Y brif her yn y tymor canolig yw parhau i ddenu’r lefel o gyllid sy’n angenrheidiol i gefnogi ymchwil o safon fyd-eang yn ystod cyfnod pan geir rhagor o ddethol o ran dyrannu cyllid ymchwil. Bydd y Brifysgol yn cwrdd â’r her hon drwy roi ei Strategaeth Ymchwil ddiwygiedig ar waith er mwyn gwella ansawdd ei chynnyrch ymchwil ac annog ac ysgogi ceisiadau am nawdd allanol. Bydd y Brifysgol yn gweithio hefyd i ddatblygu nodau ac amcanion Partneriaeth Ymchwil a Menter Aberystwyth/Bangor, i ymgorffori arbenigedd ymchwil y Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd yn PA ac, ar y cyd â Phrifysgol Bangor, i sefydlu cynghrair strategol ym maes y gwyddorau biolegol, bywyd ac amgylcheddol.
iv. Denu Myfyrwyr a’r Ddarpariaeth Academaidd
Mae’r Brifysgol wedi llwyddo yn ystod y blynyddoedd diwethaf i adeiladu safle cryf yn y farchnad denu myfyrwyr, a hynny’n aml yn groes i dueddiadau cenedlaethol o ran denu myfyrwyr i astudio pynciau penodol. Mae ei llwyddiant yn y maes hwn wedi’i gefnogi gan waith parhaus ym meysydd marchnata a darparu bwrsariaethau a chefnogaeth i fyfyrwyr yn ogystal â darparu portffolio o ansawdd uchel sy’n cael ei adolygu’n rheolaidd drwy gyfrwng system ymatebol o adnewyddu’r portffolio. O ganlyniad, mae’r Brifysgol yn hyderus o’i gallu i gynnal niferoedd myfyrwyr dros y pum i ddeg mlynedd nesaf, mewn marchnad fwyfwy cystadleuol. Dyma nifer o flaenoriaethau sy’n ymwneud â’r maes hwn:
- Cynnal system fwrsariaethau effeithiol a thryloyw a fydd yn cefnogi ehangu cyfranogiad ac amcanion allweddol eraill o ran denu myfyrwyr, gan gynnwys sicrhau cyfle cyfartal i bob myfyriwr.
- Parhau i ddatblygu’r Bartneriaeth Ehangu Mynediad Ymgyrraedd yn Ehangach er mwyn diwallu anghenion rhanbarthol a mynd i’r afael â Strategaeth Ehangu Mynediad CCAUC a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
- Darparu portffolio amrywiol o gyrsiau sy’n addasu i agendâu deallusol newydd ac sy’n cyd-fynd ag anghenion corff amrywiol o fyfyrwyr a byd gwaith.
- Sicrhau darpariaeth addysgu o ansawdd uchel ledled y portffolio a chynnal lefelau uchel o foddhad ymhlith y myfyrwyr.
- Gwella’r ddarpariaeth addysgu cyfrwng Cymraeg.
Y prif heriau ar gyfer y tymor canolig yw cynnal ein niferoedd myfyrwyr, drwy barhau i wneud yn dda o ran denu myfyrwyr a thrwy wella cyfraddau cadw myfyrwyr, a gwella profiad myfyrwyr er mwyn diwallu anghenion corff amrywiol o fyfyrwyr a pharhau i ehangu mynediad i AU i sicrhau bod rhwystrau i astudio yn cael eu canfod a’u dileu. Bydd y Brifysgol yn cwrdd â’r heriau hyn drwy gynnig llwybrau hyblyg i AU, system fwrsariaethau effeithiol a thryloyw i gefnogi ehangu mynediad, a phortffolio o gyrsiau sy’n addasu i fyd sy’n newid ac sy’n cyd-fynd ag anghenion corff amrywiol o fyfyrwyr. Bydd y Brifysgol yn parhau i wella ei gweithgareddau cymorth i fyfyrwyr a datblygu a chanolbwyntio ei strategaethau marchnata.
v. Llywodraethu, Staffio a Chynaliadwyedd
Yn ei holl weithgareddau bydd y Brifysgol yn ceisio sicrhau bod safonau arferion llywodraethu da yn cael eu bodloni. Dyma’r blaenoriaethau yng nghyswllt y maes hwn:
- Hyrwyddo cyfle cyfartal i staff a myfyrwyr, gan adolygu a gweithredu polisïau i sicrhau bod arferion da o ran cydraddoldeb yn cael eu lledaenu a’u hymgorffori ymhellach ledled holl weithgareddau’r Brifysgol.
- Darparu seilwaith technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) modern a manteisio ar ei botensial i gefnogi addysgu, ymchwil a chyfathrebu effeithiol.
- Hyrwyddo gwaith adolygu a datblygu gyrfaoedd personol a darparu gwasanaethau cymorth addas i staff ar bob lefel.
- Datblygu a chefnogi arweinwyr a rheolwyr presennol y gwasanaethau academaidd a chymorth, ac arweinwyr a rheolwyr y dyfodol.
- Cynnal a datblygu’r seilwaith diriaethol er mwyn cefnogi cenhadaeth y Brifysgol.
- Bod yn sefydliad ymatebol, effeithlon ac atebol.
- Ymateb, drwy gyfrwng y cwricwlwm a mesurau ymarferol, i faterion cynaliadwyedd, rheoli gwastraff ac effeithlonrwydd ynni.
- Parhau i adolygu polisïau amgylcheddol ac ehangu mentrau amgylcheddol, yn unol â Safon System Reoli Amgylcheddol ISO 14001.
- Datblygu Strategaeth Ystadau ddeng mlynedd y Brifysgol.
Y prif heriau ar gyfer y tymor canolig yw parhau i ddenu a chadw staff academaidd a staff cymorth o ansawdd uchel mewn marchnad fwyfwy cystadleuol gan sicrhau ar yr un pryd bod polisi cydraddoldeb y Brifysgol yn cael ei weithredu’n llawn er mwyn sicrhau nad oes dim rhwystrau i allu’r Brifysgol i ddenu staff rhagorol. Ceir heriau o ran cynnal a chadw adeiladwaith y Brifysgol o safbwynt gwneud cynnydd addas gyda’r gwaith cynnal a chadw sydd wedi cronni a gwella’r ystâd yng nghyd-destun y Strategaeth Ystadau ddiwygiedig. Bydd y Brifysgol yn cwrdd â’r heriau hyn drwy weithio ar strategaethau ar gyfer datblygu, ysgogi a gwobrwyo staff a bydd yn gweithio i ddatblygu ei gwasanaethau Adnoddau Dynol, gan sicrhau bod ei pholisi cydraddoldeb yn cael ei weithredu a’i adolygu’n barhaus a chan fonitro ei effaith. Bydd y Brifysgol yn gweithio hefyd i greu a rhyddhau arian i wella a datblygu’r ystâd a bydd yn sicrhau y ceir prosesau addas i reoli prosiectau adeiladu a chynnal a chadw yn effeithiol.
Y Broses Gynllunio
Mae’r Cynllun Strategol hwn yn rhoi’r cyd-destun ar gyfer, ac yn cael ei gefnogi gan, amrywiaeth o strategaethau penodol, pob un ohonynt â’i chynllun gweithredu a/neu ei chynllun gweithredol blynyddol ei hun. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Strategaeth Ymchwil (gweler adran 1)
- Strategaeth Dysgu ac Addysgu (gweler adran 2)
- Strategaeth Uwchraddedig (gweler adrannau 1 a 2)
- Strategaeth Ehangu Mynediad (gweler adran 3)
- Strategaeth Cyfrwng Cymraeg (gweler adran 4)
- Polisi Cydraddoldeb Hiliol (gweler adran 5)
- Strategaeth Datblygu Staff (gweler adran 5)
- Strategaeth y Drydedd Genhadaeth – ar y cyd â Phrifysgol Bangor (gweler adrannau 7 a 4)
- Strategaeth y Gwasanaethau Gwybodaeth (gan gynnwys y strategaeth e-ddysgu newydd – gweler adran 8)
- Strategaeth Ystadau (gweler adran 9)
- Strategaeth Cyllid Cyfalaf (gweler adran 9)
- Polisi Gwastraff (gweler adran 9)
Mae’r Cynllun Strategol a’r strategaethau a’r cynlluniau gweithredu penodol sy’n ei gefnogi yn cael eu hadolygu’n flynyddol.
Mae’r Cynllun Strategol hwn yn cael ei ategu gan ‘Gynllun Gweithredol’ y Brifysgol, sy’n cael ei baratoi’n flynyddol a’i gyhoeddi i’w ddosbarthu o fewn y Brifysgol ac ar wefan y Brifysgol. Mae’r Cynllun Gweithredol yn amlinellu heriau penodol y bydd gofyn eu hwynebu yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, a blaenoriaethau allweddol ar gyfer y cyfnod cynllunio. Mae’r ddogfen yn gosod yr agenda ar gyfer y cylch cynllunio blynyddol ac fe’i hystyrir yn ddogfen allweddol ym mhroses gynllunio strategol y Brifysgol.
Monitro Cynlluniau
Yn ogystal â’r trefniadau monitro sydd ar waith ar gyfer y cynlluniau unigol sy’n cefnogi’r Cynllun Strategol hwn, yr ydym yn monitro ein cynnydd yn erbyn y targedau sydd wedi’u hamlinellu yn y cynllun hwn ar sail flynyddol ac yn adrodd ar hyn i Gyngor y Brifysgol. Ystyrir cynnydd yn erbyn targedau yn rhan o’r broses i ddiwygio targedau ar gyfer y flwyddyn nesaf er mwyn sicrhau bod yr holl dargedau sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun yn gyraeddadwy ac yn realistig ond eto’n parhau i fod yn uchelgeisiol.