Cynllun Strategol 2012 - 2017
Aberystwyth 2017
Gosodwn chwe her i ni’n hunain i’r cyfnod 2012 – 2017. Bydd llwyddiant yn y meysydd hynny yn ein helpu i gyrraedd ein nod o fod yn sefydliad rhyngddisgyblaethol sy’n arwain y maes, yn creu effaith yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd. Ein prif nod yw sicrhau bod Aberystwyth, erbyn 2017, yn cael ei rhoi yn gyson ymhlith y 30 uchaf o holl brifysgolion gwledydd Prydain, a’r 250 uchaf ledled y byd.
Dros y pum mlynedd nesaf byddwn yn mynd â’r maen i’r wal, drwy weithio’n strategol yn y chwe maes hyn:
Creu cyfleoedd
Chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag manteisio ar addysg uwch, helpu myfyrwyr a staff i lwyddo a datblygu, ymgorffori cyflogadwyedd ar draws ein cwricwlwm, a hybu profiadau sy’n golygu bod myfyrwyr yn gallu profi a datblygu eu sgiliau, gwerthfawrogi pobl a gwireddu eu potensial llawn, adlewyrchu cyfrifoldeb cymdeithasol yn ein holl waith.
Ymchwil rhagorol sy’n creu effaith
Datblygu ymhellach ar ein llwyddiannau ymchwil er mwyn gwneud gwahaniaeth drwy ymdrin â heriau byd-eang a darparu modd o ddeall y dyfodol drwy’r gorffennol.
Dysgu sy’n Ysbrydoli
Gwella ymhellach ar y profiad o’r radd flaenaf y mae ein myfyrwyr yn ei gael drwy fuddsoddi mewn isadeiledd o safon a phortffolio rhagorol sy’n pwysleisio cyflogadwyedd a sgiliau hyd oes, gan roi i’n myfyrwyr y sgiliau a’r wybodaeth i lwyddo yn y dyfodol.
Meithrin ein cysylltiadau â’r byd
Adeiladu ar ein henw da rhyngwladol, denu myfyrwyr a staff o bedwar ban byd, a chydweithredu â phartneriaid a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Gweithio mewn partneriaeth
Cydweithredu â phrifysgolion eraill, â’r gymuned leol ac Addysg Bellach, â chyflogwyr a busnesau, ac â’n cyn-fyfyrwyr, yn meithrin partneriaethau byd-eang, yn cyfoethogi profiad ein myfyrwyr, ein staff a’n partneriaid.
Buddsoddi yn ein dyfodol
Datblygu ein hadnoddau a buddsoddi yn ein hamgylchedd i wireddu ein blaenoriaethau strategol, gan sicrhau cynaliadwyedd a thwf Aberystwyth yn y dyfodol.