Cynllun Strategol 2012 - 2017
Amcan 6 - Buddsoddi yn y dyfodol
Buddsoddi yn ein dyfodol: datblygu ein hadnoddau a buddsoddi yn ein hamgylchedd i wireddu ein blaenoriaethau strategol, gan sicrhau cynaliadwyedd a thwf Aberystwyth yn y dyfodol
Mae’r awch i sicrhau isadeiledd ariannol a chorfforol cynaliadwy a llwyddiannus yn sylfaen i’n hamcanion a’n strategaethau eraill i gyd. Byddwn ni’n sicrhau llwyddiant drwy feithrin ein hadnoddau adnewyddol a chyfalafol. Dros y pum mlynedd nesaf, byddwn yn sicrhau bod Aberystwyth mewn sefyllfa ariannol gref, yn creu mwyfwy o drosiant ac o weddill ariannol, gan fuddsoddi’n ddoeth, cyfrifol ac agored mewn prosiectau a fydd yn gyrru amcanion strategol y cynllun hwn yn eu blaen.
Rhoddwn sylw penodol i’n hystadau, gan fuddsoddi mewn gwelliannau arloesol a chynaliadwy i’r isadeiledd corfforol. Byddwn yn agor neuaddau preswyl newydd mawr a fydd yn cynnig amrywiaeth o leoedd byw modern gan ymateb i newidiadau yn anghenion y myfyrwyr, a bydd hynny hefyd yn golygu y gallwn ehangu ein hadnoddau cynadledda. Rydym hefyd wedi ymroi i raglen o wella mannau dysgu a labordai fel y gellir dysgu ynddynt mewn modd mwy hyblyg, ac er mwyn annog dysgu ar y cyd ac mewn grwpiau, ac i ddarparu adnoddau o ansawdd uchel i’n hymchwilwyr.
Byddwn yn symleiddio ein strwythurau i sicrhau bod ein staff academaidd a phroffesiynol yn cael cefnogaeth effeithiol, gan arbed arian drwy dorri gwariant lle bo hynny’n briodol. Gan ymgynghori â’n staff a’n myfyrwyr, rydym yn ad-drefnu ein hadrannau academaidd yn llwyr. O ganlyniad, datblygwn strwythur o Athrofeydd newydd a fydd yn datganoli grym i benaethiaid yr unedau, yn datblygu arweinyddiaeth drwy gydol y Brifysgol ac yn annog gwaith rhwng disgyblaethau, ac yn diogelu ar yr un pryd hunaniaethau penodol y brandiau y mae ein hadrannau wedi gweithio mor galed i’w creu yn y farchnad fyd-eang. Bydd y strwythur gweinyddol newydd hefyd yn dod â’r adrannau academaidd a gwasanaethau yn nes at ei gilydd, gan ail-gyflunio ein gwasanaethau proffesiynol i weithio’n effeithiol ac effeithlon gan sicrhau’r gwasanaeth gorau posib i’r staff a’r myfyrwyr. Bydd yn rhaid i’r strwythurau newydd fod yn addas i’w dibenion, gyda’r staff i gyd yn gallu cyfrannu at wireddu ein hamcanion craidd, beth bynnag fo’u gwaith.
I fod yn gynaliadwy, nid ein trefniadau ariannol a’n strwythurau yn unig sy’n bwysig – mae ein hamgylchedd hefyd yn bwysig. Mae Aberystwyth yn ddigon ffodus i sefyll ar lannau un o arfordiroedd harddaf y byd. Saif y campws yn ardal drosglwyddo Biosffer Dyfi, sydd yn gartref i dair Ardal Cadwraeth Arbennig a saith Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Cydnabyddir prydferthwch y fro fel un o drysorau coron UNESCO. Rydym ninnau, yn ein tro, yn cydnabod ein cyfrifoldeb ni tuag at yr amgylchedd rydym yn gweithio ynddo ac rydym wedi gosod heriau i ni ein hunain i sicrhau bod y Brifysgol yn dod yn fwy gwyrdd – gwella ein rheolaeth ar wastraff a dŵr, lleihau ein hôl-troed carbon, rhoi mwy o dir i’r myfyrwyr a’r staff allu tyfu bwyd, annog teithio cyfrifol rhwng ein safleoedd, ac annog gwell defnydd ar ein mannau gwyrddion. Mae cynaliadwyedd, datblygu a dinasyddiaeth fyd-eang yn cael eu hymgorffori yn ein cwricwlwm.
Strategaethau i 2012-2017
- Datblygu ein hadnoddau a’u buddsoddi yn unol â’n blaenoriaethau strategol a’n datganiad buddsoddi moesegol, gan ystyried anghenion ein myfyrwyr a’n staff, a sicrhau cynaliadwyedd a thwf Aberystwyth yn y dyfodol.
- Ymgorffori cynaliadwyedd a materion sy’n ymwneud â chyfrifoldeb cymdeithasol yn y cwricwlwm.
- Ymgorffori strwythurau newydd yr adrannau academaidd a’r adrannau gwasanaeth i sicrhau y defnyddir adnoddau yn fwy effeithlon, bod yr arfer gorau yn cael ei rannu’n well a bod yr unedau academaidd a gwasanaethau yn cydweithio’n agosach.
- Cynnal ymgyrch fawr i godi cyllid cyfalaf i wella ein hystadau.
- Ymgymryd â rhaglen helaeth o ddiweddariadau i’n hisadeiledd ystadau a thechnoleg i sicrhau amgylchedd dysgu o’r ansawdd uchaf.
- Rheoli ein Campws ar Benglais fel cadwrfa natur, gan gydnabod a dathlu ein tirweddau hanesyddol a bioamrywiaeth unigryw’r campws.
Aberystwyth 2017
Erbyn 2017 byddwn ni’n:
- Cynhyrchu gweddill ariannol gweithredol, yn codi i 3% erbyn 2015 ac i 5% erbyn 2017.
- Lleihau allyriannau CO2 ar draws ein hystadau 3% bob blwyddyn.
- Cael cydnabyddiaeth o’n hystadau fel gwarchodfa natur / cadwraeth.
- Adnewyddu’n mannau dysgu i’r safonau uchaf oll, gan hybu dulliau hyblyg a chynhwysol o ddysgu.
- Sicrhau bod ein costau gweinyddol yn gyfartal â’r canolrif i’r sector, neu’n is.