Cynllun Strategol 2012 - 2017
Ein Gwerthoedd
Mae ein dyheadau i’r pum mlynedd nesaf wedi’u seilio ar werthoedd y mae’n myfyrwyr a’n staff wedi’u rhoi i ni. Gwyddom fod y gwerthoedd hyn yn sylfaenol bwysig i bawb a fydd yn gweithio i wireddu gweledigaeth Aberystwyth 2017. Mae Aberystwyth 2017 yn bosib oherwydd y bobl sy’n ymgorffori cryfderau a gwerthoedd Aberystwyth 2012.
Mae Aberystwyth yn:
Uchelgeisiol
Ymdrechu am ragoriaeth ym mhob maes ac yn hyderus o’n heffaith ni ar y byd.
Arloesol
Rhoi i’n pobl y rhyddid i arbrofi drwy eu hannog i wthio ffiniau gwybodaeth a’u sgiliau ac i wneud y darganfyddiadau sy’n newid ein byd. Fel Prifysgol rydym yn hyblyg ac ystwyth.
Canolbwyntio ar ei phobl
Dathlu cyfraniad unigol pob cydweithiwr a phob myfyriwr, ymdrechwn i alluogi pawb i wireddu eu potensial llawn, ac i chwalu’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag llwyddo.
Rhyngwladol
Gweithio i sefydlu partneriaethau ar draws y byd a denu myfyrwyr a staff rhyngwladol er mwyn cyfoethogi bywyd diwylliannol a deallusol Aberystwyth.
Seiliedig yn y gymuned
Cydnabod pwysigrwydd ein cymuned a’n Cenedl a’r rhan sydd gennym i’w chwarae wrth gyfrannu at ganolfan ddiwylliannol, ieithyddol ac economaidd y rhanbarth a Chymru.
Cydweithrediadol
Gweithio mewn partneriaeth a meithrin rhwydweithiau cryf o arbenigedd yn lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Agored
Ymdrechu i fod yn agored ac ymatebol i anghenion a barn ein cyfranddeiliaid.
Cyfriol
Buddsoddi’n ddoeth gan gofio cynaliadwyedd ac effeithiau economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol ein holl benderfyniadau.