Dewis Banc

Wrth ddewis banc, peidiwch â chael eich dylanwadu gan anrhegion am ddim a chynigion arbennig. Os dewiswch yn ddoeth a chyllido’n dda, mi fyddwch yn gallu fforddio rhai o’r pethau hyn beth bynnag.

Cyn agor cyfrif, dylech ofyn cwestiynau tebyg i hyn:    

  •  Beth yw maint y gorddrafft di-log a gynigir?
  • Faint o log a godir os ewch dros ffin y gorddrafft a gynigir yn ddi-log?
  • A godir ffi am gynyddu’r gorddrafft?
  • Faint o log a delir i’r cyfrif os bydd y cyfrif mewn credyd?
  • Faint fydd balans heb ei awdurdodi neu siec a gaiff ei gwrthod yn ei gostio?
  • A oes gan y banc/y gangen Gynghorydd Myfyrwyr sy’n deall myfyrwyr ac yn gallu cynnig cyngor ynghylch rheoli arian?
  • A oes cangen gartref hefyd?
  • Beth fydd yr agwedd tuag at fy ngorddrafft ar ôl imi raddio?
  • A fydd modd imi gael cerdyn arian / llyfr siec / cerdyn gwarantu sieciau?
  • A fydd modd im ddefnyddio bancio ar y ffôn neu’r we?
  • A fydd modd imi fynd i’r banc fy hun i wneud cais am orddrafft neu a fydd raid imi alw canolfan alwadau?        

Os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol, bydd angen ichi wybod pa lythyron neu ddogfennau fydd eu hangen ar y banc i agor cyfrif.