- Adref »
- Arian Myfyrwyr »
- Rheoli Arian »
- Cronfa Argyfwng wrth Gefn
Cronfa Argyfwng wrth Gefn
Mae llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnig arian yn ôl disgresiwn i’ch helpu os:
- Bydd gennych gostau ychwanegol uchel, na thelir amdanynt drwy gyllid arall
- Cewch argyfwng ariannol annisgwyl
- Byddwch ar fin rhoi’r gorau i astudio oherwydd problemau ariannol
- Byddwch wedi cyllido’n wael a bod angen help llaw arnoch yn ariannol.
Mae’r gronfa yma i roi grantiau na fydd angen eu talu yn ôl, OND disgwylir ichi chwilio am ffyrdd eraill o gynhaliaeth, e.e.
- Gwaith rhan-amser neu waith yn ystod y gwyliau
- Cyfraniad gan rieni tuag at gynhaliaeth fel y’i hasesir gan Gyllid Myfyrwyr
- Cyllido’n ofalus
- Trefnu benthyciad neu gynnydd yn y gorddrafft a defnyddio cynilion.
Rhoddir blaenoriaeth i’r rheiny sydd â phlant, dyledion i’w blaenoriaethu, anabledd, pobl sy’n gadael gofal, neu fyfyrwyr yn y flwyddyn olaf.
Mae’r Gronfa Argyfwng yn agored i fyfyrwyr israddedig ac uwchraddedig Cartref amser llawn a rhan-amser (o leiaf 50% amser llawn) yn unig. Rhaid bod myfyrwyr israddedig wedi benthyca’r mwyaf posibl drwy fenthyciadau myfyrwyr ac yn derbyn cyfraniad priodol gan rieni. Rhaid bod uwchraddedigion wedi trefnu cyllid i dalu ffïoedd a chostau byw sylfaenol cyn y gallant wneud cais.
Dylid cyflwyno ffurflenni cais wedi’u cwblhau wyneb-yn-wyneb, a thystiolaeth hefyd i gefnogi’r cais. Ar ol checio eich ffurflen bydd rhaid gwneud apwyntiad i weld Cynghorydd Arian a fydd yn trafod eich cais yn fanwl cyn i’r Pwyllgor ei gysudro. Fel rheol bydd hyn yn cymeryd 15-20 munud.
Caiff eich ffurflen ei hasesu ac os byddwch yn darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen, fe gewch ateb o fewn i 15 diwrnod gwaith. Telir arian i’ch cyfrif.
Yn yr asesiad, byddwn yn tynnu ffigyrau penodol am wariant rhesymol o’ch holl incwm blynyddol (gan gynnwys cynilion).
Os nad ydych yn hapus â’r penderfyniad, mae croeso ichi gysylltu â ni am wybodaeth yn y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr.
- Ni ellir defnyddio’r Gronfa Argyfwng i dalu ffïoedd dysgu.
- Ni all y Gronfa Argyfwng gymryd lle cyfraniad gan rieni nad yw’n cael ei dalu, gan y bydd hyn yn cael ei gynnwys fel arfer yn incwm yn eich asesiad.