Gwneud y Mwyaf o'ch Incwm

  1. Cyn ichi ddechrau eich cwrs, cadarnhewch a fyddwch yn gymwys ar gyfer cymorth ariannol gan ffynonellau statudol a dewisol. Ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr ar gyfer y wlad sy’n berthnasol i chi.
  2. Sicrhewch eich bod yn gwneud cais mewn da bryd gan fod nifer o gronfeydd yn gweithredu dyddiadau cau ar gyfer derbyn ceisiadau neu’n cymryd peth amser i’w prosesu.
  3. Holwch a fyddai modd i chi gael cymorth gan elusennau neu ymddiriedolaethau. Bydd cymorth fel arfer yn ddibynnol ar y math o gwrs yr ydych yn ei astudio neu ar le yr ydych yn byw neu ar gefndir galwedigaethol eich rhieni.
  4. Chwiliwch am swydd – bydd myfyrwyr yn aml yn ychwanegu at eu hincwm drwy wneud peth gwaith rhan-amser yn y dref, neu ewch i Gyswllt Swyddi Urdd y Myfyrwyr.
  5. Os ydych yn rhiant sengl neu’n fyfyriwr aeddfed gyda theulu, mae’n bosibl y bydd hawl gennych i wneud cais am Gredydau Treth neu Fudd-dal Tai.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i adran gyfeirio eich llyfrgell leol