Lleihau eich Gwariant
- Prynwch bethau ail law, lle bo hynny’n bosibl. Ewch i siopau elusen, gwerthiannau cist car neu ffeiriau sborion. Yn aml, gellir prynu llyfrau cwrs yn ail law. Os na fedrwch prynu llyfrau cwrs yn ail law, cofiwch ddefnyddio’r llyfrgell. Peidiwch â meddwl bod rhaid prynu pob llyfr ar y rhestr ddarllen – gofynnwch i fyfyrwyr eraill neu i’ch tiwtoriaid pa lyfrau sydd fwyaf defnyddiol. Gallwch ofyn am yr eitemau drutaf fel anrheg Nadolig neu anrheg pen-blwydd.
- Rhannwch gostau bwyd gyda ffrindiau. Fel arall, o ran bwyd neu eitemau ar gyfer y tŷ, prynwch mewn llwyth ar y tro neu cymerwch olwg ar nwyddau’r arfarchnad ei hun sydd fel arfer yn costio llai. Gwnewch frechdanau ar gyfer cinio.
- Gostyngwch eich costau teithio i’r lleiaf posibl. Mae nifer o fyfyrwyr yn meddwl bod angen car arnynt, ond mae hyn yn ddrud iawn ac nid mor hanfodol â hynny ychwaith. A oes gwir angen car arnoch chi – a yw’r gost werth y cyfleustra ychwanegol? Cerddwch neu ewch ar gefn beic – nid yw Aberystwyth yn lle mawr iawn ac nid oes angen teithio ymhell i gyrraedd darlithoedd ac ati. Bydd yr ymarfer corff yn gwneud lles i chi hefyd!
- Os ydych yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, prynwch gerdyn teithio ar dren neu fws i fyfyrwyr. Prynwch gerdyn AHA (Ar Hyd Aber) ar gyfer teithio ar fws i’r Brifysgol ac yn ôl – bydd manylion pellach ar gael yn Ffair y Glas.
- Manteisiwch ar gynigion gostyngiadau i fyfyrwyr. Mae nifer o siopau yn cynnig gostyngiad wrth ichi ddangos cerdyn Undeb Myfyrwyr Cenedlaethol.
- Peidiwch â gwario mwy na’ch gorddrafft heb drefnu ymlaen llaw a chadwch yn glir rhag cerdiau siopau gan fod y graddfeydd llog arnynt fel arfer yn uchel. Cyfyngwch ar eich defnydd o gerdyn credyd. Chwiliwch o gwmpas am y cyfrif banc gorau i fyfyrwyr ar gyfer eich anghenion chi (gweler ein cyngor ar ddewis banc addas).
- Arbedwch ar gostau yswiriant drwy gadarnhau a fydd eich eitemau personol yn cael eu cynnwys yn rhan o yswiriant cynnwys tŷ eich rhieni neu yn rhan o’r yswiriant a geir yn llety’r Brifysgol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn prynu yswiriant digonol ar gyfer eitemau mwy ac eitemau drutach, megis gliniaduron.
Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru)
Darganfyddwch sut mae dileu rhywfaint o’ch Benthyciad Myfyriwr! Yn anffodus, mae hyn ar gyfer myfyrwyr o Gymru’n unig.