Angen Cymorth
Os ewch i drafferthion gydag arian y peth pwysig yw siarad â rhywun amdano. Peidiwch ag anwybyddu’r broblem, neu fe aiff yn waeth.
Os na byddwch yn gallu talu eich ffïoedd dysgu neu’ch ffïoedd llety, siaradwch ag adran Ffïoedd Myfyrwyr y Brifysgol cyn gynted â phosibl.
Gellir cosbi myfyrwyr sydd mewn dyled i’r Brifysgol (er enghraifft, peidio â chaniatáu iddynt ailgofrestru) felly mae’n bwysig eich bod chi’n egluro’ch sefyllfa gan ei bod hi’n bosibl y gallwch drafod cynllun ad-dalu.
Os na allwch dalu’ch rhent, cysylltwch â’r perchennog i weld a allwch drafod rhan-daliad neu a drefnu talu yn hwyrach. Weithiau, ni thelir Benthyciadau/Grantiau ar yr un pryd â dyddiad talu’r rhent.
Os ewch dros ben y gorddrafft y cytunwyd arno, siradwch â’r banc cyn gynted â phosibl. Talwch y dyledion sy’n flaenoriaeth gennych yn gyntaf a meddyliwch yn ofalus cyn defnyddio cerdyn credyd i gwrdd â’r costau nad oes modd talu amdanynt drwy ffyrdd eraill.
Ymdopi â Dyled
Os yw’r sefyllfa’n wael iawn, bydd angen ichi drafod cais ad-dalu eich credydwyr. Gellir seilio hyn ar amcangyfrif realistig o’r hyn y GALLWCH EI FFORDDIO ac nid yr hyn y mae eich credydwyr yn ei ddymuno.
Mae’r Llinell Ddyledion Genedlaethol yn cynnig cyngor cyfrinachol yn rhad ac am ddim drwy ffonio 0808 808 4000 neu drwy’r wefan: www.nationaldebtline.co.uk Gallant hefyd ddarparu adnoddau hunangymorth pe bai’n well gennych reoli’r sefyllfa eich hun.