Llunio Cyllideb
Cewch weld cyllideb nodweddiadol o fyfyriwr yma.
Nawr, lluniwch eich cyllideb eich hun:
- Y cam cyntaf yw rhestru’r holl INCWM yr ydych yn debygol o’i dderbyn – dim ond yr arian yr ydych yn sicr y byddwch yn ei dderbyn y dylech ei gynnwys.
- Nawr bydd angen ichi restru eich GWARIANT, e.e., rhent, bwyd, biliau ar gyfer gwasanaethau, hamdden, ffôn a’r we, costau’r cwrs, teithio i’r brifysgol ac adref ar gyfer y gwyliau, gofal iechyd, dillad ac esgidiau ac ati.
Os oes gennych blant, bydd angen ichi gofio cynnwys costau gofal plant a theithiau ysgol.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn blaenoriaethu gwariant hanfodol megis bwyd a llety bob tro. Ceir gwybodaeth am ffïoedd llety’r Brifysgol a’r dulliau talu o’r adran Ffïoedd Myfyrwyr.
Weithiau, ni fydd dyddiadau ar gyfer talu gwariant penodol fel rhent yn cyd-fynd â thaliadau talu Benthyciadau Myfyrwyr a grantiau, felly cofiwch gadw peth arian o’r neilltu ar gyfer sefyllfaoedd fel hyn. Rhowch arian o’r neilltu ar gyfer biliau/cyrsiau maes a gwariant rheolaidd arall. Bydd rhai myfyrwyr yn cadw cyfrif cynilo ar gyfer biliau ac yn rhoi arian ynddo cyn gynted ag y byddant yn derbyn eu nawdd myfyrwyr. Fel hyn, ni cheir temtasiwn i wario arian nad oes ganddynt ar bethau nad ydynt yn hanfodol.
Mae’n beth amlwg i’w ddweud efallai, ond cofiwch gadw golwg yn rheolaidd ar y datganiadau a ddaw o’r banc fel eich bod yn ymwybodol o’ch sefyllfa ariannol.