Polisi yn Ymwneud â Ffioedd a Thaliadau Heb eu Talu

Yn unol â Rheolau'r Brifysgol

  • Mae cyfraniadai ffioedd dysgu a ffioedd llety a asesir yn daladwy naill ai trwy randaliadau Debyd Uniongyrchol neu drwy dalu'r ffioedd yn llawn ar ddechrau'r sesiwn.
  • Os yw hawliad Debyd Uniongyrchgol yn wrthodedig, anfonir llythyr yn hysbysu'r talwr o hawliad arall o fewn un mis. Bydd y llythyr hefyd yn datgan pe gwrthodir yr ail hawliad, gellir gwrthod cyfleusterau llyfgell a chyfrifiadurol a gellir gosod rhybudd dadfeddiannu mewn perthynas â ffioedd llety.
  • Pan fydd hawliad yn wrthodedig am yr eildro, anfonir enwau'r diffygdalwyr at y Gwasanaethau Gwybodaeth ar gyfer dileu cyfleusterau a Gwasanaethau Preswyl, fel bo'r rhybuddion dafeddiannu yn cael eu gweithredu.
  • Os bydd myfyrwyr naill ai'n methu âdychwelyd gorchymyn Debyd Uniongyrchgol neu'n dileu un cyfredol heb wneud trefniadau priodol ar gyfer talu eu ffioedd, gellir eu hatal rhag defnyddio rhwydwaith cyfrifiadurol neu gyfleusterau llyfrgell.
  • Os bydd gan unrhyw fyfyriwr ffioedd heb eu talu ni ddyfernir gradd, diploma, tystysgrif na chymhwyster iddynt gan y Brifysgol tan fydd y ddyled wedi ei chlirio. Gwahreddir myfyrwyr o'r fath rhag ailgofrestru yn y sefydliad a rhag defnyddio cyfleusterau'r Brifysgol
  • Os na fydd myfyrwyr wedi talu ffioedd, taliadau neu unrhyw ddyledion eraill i'r Brifysgol, mae'n bosibl y dilëir eu cofrestriad a chânt eu heithrio o'r Brifysgol
  • Cysylltir trwy lythyr ag unrhyw fyfyriwr sydd wedi ymaedael â'r Brifysgol gydag ffioedd dyledus. Os na fydd hyn yn gwarantu taliad, cânt eu cyfeirio o bosibl at asiantaeth casglu dyledion y Brifysgol
  • Mae'r myfyrwyr i gyd yn dal â chyfrifoldeb unigol am bob ffi, dyled a thaliad arall sy'n daladwy i'r Brifysgol ar eu rhan. Nid yw'r ffaith bod corff sy'n cynrychioli myfyrwyr neu unrhyw gorff/person arall wedi rhoi cyngor i beidio â thalu neu i weithredu mewn unrhyw fodd arall sy'n bygwth dwyn colled ariannol i'r Brifysgol yn effeithio ar y cyfrifoldeb unigol hwn.