Cymorth Dysgu i Fyfyrwyr

Crynodeb o’r cyrsiau a’r gwasanaethau

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau a gwasanaethau ledled y Brifysgol i wella eich profiad astudio. 

Mae ein cyrsiau’n datblygu arferion academaidd da ymhellach trwy ddefnyddio technegau beirniadol mewn:

  • ysgrifennu academaidd
  • cyfathrebu mewn seminarau
  • gweithio gyda darlithoedd
  • adolygu ac arholiadau
  • rheoli gwybodaeth

Ynghyd â’n cyrsiau rhad ac am ddim ac ymgynghoriadau unigol, rydym hefyd yn cydlynu amrywiaeth o fodiwlau israddedig sydd â chredydau a rhaglenni penodol eraill y gallech fod yn rhan ohonynt drwy eich adran academaidd. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant ymchwil ar y cyd â’r Swyddfa Astudiaethau Uwchraddedig.

Ar hyn o bryd mae’r cyrsiau a restrir ar y safle hwn ar gael yn Saesneg yn unig, ar wahân i ymgynghoriadau unigol sy’n rhan o gynllun Cymrodoriaeth Ysgrifennu’r Gymdeithas Lenyddol Frenhinol, sydd hefyd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.

I gael manylion penodol dilynwch y dolenni isod neu cysylltwch â ni drwy’r Ganolfan Croesawu Myfyrwyr: student-support@aber.ac.uk

John Morgan, Cydlynydd Arferion Astudio