Bywyd Myfyrwyr

Gallwch fod mor brysur ag y dymunwch yma yn Aberystwyth; a chyda cymaint â hyn o amrywiaeth o adloniant, fyddwch chi byth yn brin o gyfle.

Mae Undeb y Myfyrwyr, a Chanolfan y Celfyddydau yn denu rhai o brif berfformwyr y DU yma'n rheolaidd, yn ogystal ag artististiaid arbenigol a rhai sy'n dechrau gwneud enw iddyn nhw'u hunain. Ond nid yn y Brifysgol y mae'r cwbl yn digwydd. Mae digon o leoedd yn Aberystwyth a'r ardal yn trefnu gigiau a'u gwyliau eu hunain oherwydd fod yma cynifer o fyfyrwyr, ac mae hyn i gyd yn golygu fod y profiad-prifysgol yn gyfoeth o adloniant.

I gael golwg fanylach ar yr adloniant, isod rydyn ni wedi gwahanu rhai o'r mathau y gallech eu mwynhau:

Cerddoriaeth

Gwrando, creu neu brynu cerddoriaeth. Gallwch wneud y cyfan yn Aberystwyth ...

Perfformiadau

Mae Aberystwyth yn un o gyrchfannau rheolaidd rhai o brif gomediwyr y DU, a chwmniau theatr, cerdd a dram, ac mae gennych hefyd y dewis i gymryd rhan...

Celf

Orielau ac arddangosfeydd mawrion, yn ogystal â chyfle i gymryd rhan mewn perfformiadau, dosbarthiadau a gweithdai celf, mae gan Aberystwyth gymuned gelf gyffrous ...

Ffilm

Rhwng sinema Canolfan y Celfyddydau, sinema'r dref a rhai nosweithiau ffilm am ddim yn yr Undeb, bydd na gyfle i weld yr holl brif ffilmiau mawr sy'n cael eu rhyddhau...

Dawns

Ydych chi awydd dysgu symudiadau newydd? Neu ydych chi eisiau dawnsio drwy'r nos i'ch hoff gerddoriaeth? P'un bynnag, darllenwch ymlaen...

Llenyddiaeth

Os mai llenyddiaeth yw eich peth chi, gallech gymryd y cyfleoedd hyn i ysgrifennu a darllen ...