Nosweithiau Allan

Beth sy'n gwneud noson allan yn Aberystwyth MOR dda? Ai am eich bod chi'n siwr o daro ar ffrindiau? Ai am fod 'na ostyngiadau pris i fyfyrwyr bob nos? Ai am na fydd hi'n costio ffortiwn i gyrraedd adref ar ddiwedd y nos? Ai am fod dewis o 53 o dafarnau a chlybiau sy'n chwarae'ch hoff gerddoriaeth ac yn cynnig adloniant ar eich cyfer? Nid un o'r rhesymau hynny, ond cyfuniad o'r cwbl a llawer rhagor - fe welwch drosoch eich hun pan ddewch i astudio gyda ni...

Os ydych chi eisiau cymdeithasu ar, neu oddi ar, y campws bydd gennych ddigonedd o ddewis ac o'n profiad ni byddwch yn rhannu'ch amser rhwng y ddau. Darllenwch fwy i weld yr holl ddewisiadau: