Mwynhau'r Awyr Agored
Mae lleoliad Aberystwyth "gyda'r mwyaf trawiadol o blith unrhyw un o Brifysgolion Prydain" ac o'n hamgylch mae ardaloedd a ddynodwy yn Ardaloedd
Cadwraeth Arbennig; dyna hen ddigon o reswm i fynd allan i'r awyr iach a chymryd rhan mewn chwaraeon awyragored. Dwy o fanteision enfawr gwneud chwaraeon awyragored yn Aberystwyth yw bod yn yr ardal lawer o lwybrau a llecynnau dirfel fan hyn a fan drw, ac nid oes rhaid teithio'n rhy bell i ddod o hyd iddynt byth, maen nhw ar garreg y draws.
Mae gennym nifer o glybiau prifysgol y gallwch ymuno â nhw sy'n ymwneud â chwaraeon awyragored; nid yn unig y gwna nhw eich dysgu chi, ond ar y cyfan fe gewch chi fenthyg offer ganddynt sy'n arbed llwyth o arian ichi ac yn rhoi cyfle ichi gymryd rhan o gwneud ffrindiau newydd.
Isod gweler rhestr o'r chwaraeon awyragored mwyaf poblogaidd yn y Brifysgol:
Ceffylau a Marchogaeth
- Clybiau
- Stablau
- Llwybrau
Seiclo a Cherdded
- Clybiau
- Llwybrau
Dringo
- Clybiau
- Wal ddringo dan-do
Mae'r rhestr gyflaen o glybiau'r brifysgol i'w chael gan Urdd Myfyrwyr Aberystwyth.