Chwaraeon Dŵr
Allwch chi enwi math ar chwaraeon dŵr na ellir ei wneud yn Aber? O ddifri, gyda chymaint â hyn o ddŵr ar y trothwy byddai'n ddwl iawn i ni beidio â chymryd mantais ohono. Pan fyddwch chi'n astudio gyda ni gallwch ymaelodi â hyd at 10 o glybiau chwaraeon dŵr, ac mae hyd yn oed mwy o ddewis yn y dref, neu beth am ddechrau clwb eich hyn?
Os yw'r tywydd yn braf mae'n anodd cadw draw o'r môr (gofynnwch i'n syrffwyr) ond nid yw'r cwbl yn awyragored. Yn ddiweddar rydyn ni wedi adnewyddu ein pwll nofio 25 llath a'i holl adnoddau; felly nawr gall clybiau chwaraeon awyragored, fel canwio, sub-aqua, ac ati hyfforddi gydol y flwyddyn.
Beth bynnag yw eich medusrwydd mewn chwaraeon, ym Mhrifysgol Aberystwyth fe gewch chi wastad eich annog i gymryd rhan; ond ar ddiwedd y dydd, os ydych chi awydd diwrnod diog, yna mae hynny'n iawn hefyd...
Clybiau Chwaraeon Dŵr y Brifysgol
- Corff-fyrddio
- Canwio
- Barcud-syrffio
- Rhwyfo
- Hwylio
- Sub-Aqua
- Syrffio
- Nofio
- Polo Dŵr
- Syrffio Gwynt
Chwaraeon Dŵr eraill yn ardal Aberystwyth
- Arfordira
- Pysgota
Y peth gorau am chwaraeon dŵr ym Mhrifysgol Aberystwyth yw fod yr holl glybiau a chwaraeon ar gael yn hawdd a does dim angen teithio milltiroedd i gymryd rhan.