Canolfan Croesawu Myfyrwyr

Y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr yw’r siop un stop ar gyfer Cymorth i Fyfyrwyr. Lleolir y ganolfan ar Gampws Penglais – os hoffech alw heibio i’n gweld ni, dyma’r lle i ddod. Gall ein Tîm yn y Dderbynfa gynnig pob math o gymorth megis cwblhau ffurflenni a helpu i roi trefn ar bethau. Rydym ni’n gyfeillgar iawn felly peidiwch â bod ofn galw heibio i gael gair.