Anableddau
Ein nod yw cynnig profiad o’r ansawdd uchaf i bob myfyriwr, ac i sicrhau bod ein cyfleusterau academaidd ar gael i bawb sy’n bodloni ein gofynion mynediad.
I fyfyrwyr sydd ag anableddau, gallwn drefnu gwasanaethau cymryd nodiadau, llety wedi’i addasu, a defnydd o ardaloedd Cerdyn Gwyrdd sy’n darparu cyfrifiaduron, caledwedd arbennig, meddalwedd ychwanegol a modd i ddefnyddio gliniaduron. Gallwn gynnig cyngor ar ddefnyddio technoleg a threfniadau arbennig ar gyfer arholiadau fel y gallwch gyrraedd eich potensial a chael y canlyniadau da yr ydych yn eu haeddu.
Os hoffech wybodaeth bellach am ein darpariaeth ar gyfer myfyrwyr ag anableddau neu os bydd gennych gwestiynau penodol, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at disability@aber.ac.uk neu drwy ffonio 01970 621761
Cymorth Dysgu Penodol
Rydym yn cydnabod ystod o ddulliau dysgu. Bydd ein staff, sy’n meddu ar gymwysterau proffesiynol, yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i’ch cryfderau astudio personol. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn cynnig asesu anghenion astudio, cyngor a chyfeirio arbenigol. Rydym yn cynnig cymorth wedi ei deilwra ar gyfer unigolion, mentoriaid, pobl i gymryd nodiadau, trefniadau arbennig ar gyfer arholiadau ac offer arbennig. Gallwn hefyd fod o gymorth wrth ichi lunio cais ar gyfer Lwfans Myfyrwyr Anabl a ffynonellau cyllid eraill.
Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth drwy anfon e-bost at learner-support@aber.ac.uk neu drwy ffonio 01970 621761
|
Cliciwch i weld dogfen ar gyfer addasiadau i arholiadau os gwelwch yn dda
|
Polisi ar gyfer Gwneud Newidiadau Rhesymol o ran Arholiadau |