Anableddau

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Gwasanaeth tacsis sy’n darparu ar gyfer cadeiriau olwyn

M & C Abercabs
Uned 10
Ystâd Ddiwydiannol Glan yr Afon
SY23 3JQ
Ffôn: 01970 615055
Rhif ffôn amgen: 01970 880865
 
Eddie’s Taxis
Gwarffin
Penrhyncoch
SY23 3EX
Ffôn: 01970 828642
 

Canolfannau Asesu Achrededig y Deyrnas Unedig

Gallwch ddod o hyd i restr o’r canolfannau asesu achrededig ar NNAC neu DSA-QAG.

Larymau Tân a System Rhybuddio Pobl Fyddar (Deaf Alerter)

Mae gan y Brifysgol system larwm tân sydd wedi’i gysylltu â’r system Deaf Alerter i rybuddio’r byddar.  Mae’n hwyluso rhybuddion i staff a myfyrwyr byddar sy’n cario larwm Deaf Alerter (neu ddyfais debyg).

I wneud ymholiadau neu i gael larwm Deaf Alerter, cysylltwch â:

E-bost:  hasstaff@aber.ac.uk

Ffôn:  01970 622169

Cyllid Myfyrwyr Cymru

Sut i ddod o hyd i’ch awdurdod lleol: Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Cyllid Myfyrwyr Cymru - gwybodaeth am Lwfansau Myfyrwyr Anabl ar gyfer 2011/12.

Os ydych chi wedi neu wrthi’n cwblhau eich cais am gyllid myfyriwr a’ch bod hefyd am wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl, dylech lenwi’r ffurflen ganlynol:

Dylai myfyrwyr sydd am wneud cais am y Lwfans Myfyrwyr Anabl yn unig lawr lwytho:

Am wybodaeth bellach, lawr lwythwch y canllaw i Lwfansau Myfyrwyr Anabl yn Addysg Uwch:

Cyllid Myfyrwyr Lloegr (SFE)

Cyllid Myfyrwyr Lloegr, Lwfans Myfyrwyr Anabl a Myfyrwyr sy’n Dychwelyd

Ceisiadau am Lwfans Myfyrwyr Anabl

Dylai myfyrwyr sy’n gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl barhau i ymgeisio drwy ddefnyddio ffurflen gais ar bapur.

Myfyrwyr newydd

Bydd ffurflen gais DSA1 wedi’u llenwi ymlaen llaw yn cael ei phostio at fyfyrwyr newydd sy’n ticio’r botwm ar eu prif gais am gyllid myfyrwyr, i ddangos eu bod yn dymuno gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl. Bydd angen iddynt lofnodi’r ffurflen a’i dychwelyd i Cyllid Myfyrwyr Lloegr ynghyd â thystiolaeth o’u hanabledd. Os yw’r myfyriwr eisoes wedi gwneud cais am gyllid myfyriwr a’i fod nawr am wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl fe all lenwi’r fersiwn fer o’r ffurflen DSA1 ar bapur.

Myfyrwyr sy’n Dychwelyd

Nid oes angen i fyfyrwyr sy’n dychwelyd wneud cais o’r newydd am Lwfans Myfyrwyr Anabl.  Bydd cefnogaeth wedi’i threfnu’n awtomatig ar eu cyfer ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, yn unol ag argymhellion adroddiad yr Asesiad Anghenion. Mae hyn yn eithrio myfyrwyr uwchraddedig neu ran amser sy’n gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl yn unig.

Myfyrwyr rhan amser neu uwchraddedig sy’n gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl yn unig

Dylai myfyrwyr uwchraddedig neu ran amser sy’n gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl yn unig lawr lwytho fersiwn hir y ffurflen bapur DSA1.

Ffurfiau Hygyrch

I dderbyn ffurflenni cais neu wybodaeth am Lwfans Myfyrwyr Anabl mewn fformatau eraill a/neu ganllawiau mewn Breil, Sain a Print Bras, dylai myfyrwyr anfon e-bost at: brailleandlargefonts@slc.co.uk neu ffonio 0141 243 3686 

Cyllid Myfyrwyr Gogledd Iwerddon (SFNI)

Asiantaeth Grantiau Myfyrwyr yr Alban (SAAS):

Mae’r wybodaeth am astudiaethau uwchraddedig yn dweud "Os ydych yn astudio ar gwrs uwchraddedig nad ydym yn ei gefnogi, neu’n astudio ar sail rhan amser neu dysgu o bell, fe allech fod yn gymwys i wneud cais am y Lwfans Myfyrwyr Anabl."

Mae’r ffurflenni cais Lwfans Myfyrwyr Anabl ar gael o Asiantaeth Grantiau Myfyrwyr yr Alban – cymorth i fyfyrwyr; y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw Mehefin.

Gwybodaeth i Uwchraddedigion – Cynghorau Ymchwil a’r Lwfans Myfyrwyr Anabl

Swyddfa Llety Prifysgol Aberystwyth – archebu ar-lein

Am fanylion ynglŷn â’r gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr mewn neuaddau preswyl gweler: Cymorth Preswyl.

Mentora Aberystwyth – Cynllun Ffordd Hyn

Mae rhai myfyrwyr yn teimlo y byddai’n fuddiol iddynt gael ychydig o arweiniad ar ôl cyrraedd y Brifysgol, i ymgyfarwyddo â lleoliad pethau ac ati, oll wedi’u trefnu drwy gynorthwywyr gwirfoddol sydd wedi derbyn hyfforddiant yma.

Ffôn: 01970 621890
E-bost: wpsi@aber.ac.uk

Meddygfeydd Meddygon Teulu ac Ysbyty Cyffredinol Aberystwyth

Mae gennym amryw o feddygfeydd yn Aberystwyth yn ogystal â Meddygon Teulu sy’n mynychu ein Canolfan Iechyd yn y Brifysgol. Ceir manylion pellach am ein Canolfan Iechyd ar ein gwefan: http://www.aber.ac.uk/cy/student-support/health/. Gall myfyrwyr alw heibio i wneud apwyntiadau.

Mae yna 5 meddygfa meddyg teulu yn Aberystwyth i gyd. Mae gennym hefyd ysbyty cyffredinol o’r enw Ysbyty Bronglais, cwta pum munud o gerdded o’r brifysgol.

Canolfan Cyngor a Chynghori Myfyrwyr Urdd Myfyrwyr Aberystwyth

Manylion cynhwysfawr o’r Ganolfan Cyngor a Chynghori Myfyrwyr.

Ffôn: 01970 621740
E-bost: union.welfare@aber.ac.uk

Sgil: Biwro Cenedlaethol i Fyfyrwyr ag Anableddau

Gwefan y GIG

Gwybodaeth am Iechyd Meddwl Myfyrwyr ac Addasrwydd i Astudio, a llawer mwy ar iechyd meddwl