- Adref »
- Cymorth Myfyrwyr »
- Cwestiynau a Holir yn Aml »
- Rhestr o’r holl Gwestiynau a Holir yn Aml
Rhestr o’r holl Gwestiynau a Holir yn Aml
A. Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn cynnig unrhyw fenthyciadau caledi neu gyffelyb. Yr unig gyllid sydd ar gael yw’r Gronfa Argyfwng wrth Gefn (FCF) i fyfyrwyr y Deyrnas Unedig sydd mewn caledi sylweddol. Os hoffech wneud cais am gyllid o’r Gronfa, darllenwch y wybodaeth ychwanegol drwy glicio ar y ddolen uchod, neu galwch heibio i drafod eich sefyllfa gydag aelod o staff Cymorth i Fyfyrwyr ar 3ydd llawr y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr. Os nad ydych wedi cael eich benthyciad myfyriwr, ac mai nid chi sydd ar fai am hynny, fe allech fod yn gymwys i gael benthyciad tymor byr oddi wrth y Brifysgol - ond bydd angen i chi wneud apwyntiad i weld Cynghorwr Myfyrwyr i drafod eich sefyllfa. Yn ogystal â hyn, mewn argyfyngau difrifol gallwn roi gwerth £10 o gredyd ar Gardiau Aber myfyrwyr i’w ddefnyddio ym mwytai a chaffis y Brifysgol. Y Cynghorwyr Myfyrwyr sy’n gyfrifol am y ddyrannu’r rhain hefyd.
A. Bydd unrhyw ddogfennau a anfonwyd atom yn cael eu ffeilio gyda’ch cais; os nad ydych yn hapus i ni gadw’r dogfennau gwreiddiol, yna byddwn yn derbyn llungopïau.
A. Os yw’r banc wedi gwrthod rhoi gorddrafft i chi mae’n bosib y gallech gael arian o’r Gronfa Argyfwng wrth Gefn. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth bod y banc wedi gwrthod rhoi gorddrafft i chi, megis llythyr oddi wrth y banc. Os ydych wedi dewis peidio cael gorddrafft gallwch gyflwyno cais yr un fath, ond mae’n annhebygol iawn y cewch unrhyw arian.
A. Ar hyn o bryd ein polisi yw rhoi £200 tuag at gost Asesiad Seicolegydd Addysg myfyrwyr sy’n dioddef caledi. Dylai eich Lwfans Myfyriwr Anabl gwrdd â chostau unrhyw ddeunyddiau sydd arnoch eu hangen o ganlyniad i’r asesiad o’ch anghenion astudio.
A. I adennill eich treuliau bydd angen i chi weld y Cydlynydd Anabledd Cynorthwyol (Rhian Watkins) neu aelod o’r tîm Cymorth Dysgu i ofyn am ffurflen i’w hanfon at Cyllid Myfyrwyr.
A. Os yw eich cyfrif wedi cael ei gloi oherwydd eich bod mewn dyled i’r Brifysgol bydd angen i chi gysylltu â’r Swyddfa Ffioedd Myfyrwyr, e-bost fees@aber.ac.uk. Weithiau bydd eich cyfrif yn cael ei gloi os nad yw eich cyfrinair yn ddiogel; os felly, bydd angen i chi gysylltu â’r Gwasanaethau Gwybodaeth, e-bost is@aber.ac.uk.
A. Os ydych yn fyfyriwr newydd yn eich blwyddyn gyntaf dylech ymweld â’r dderbynfa ar Lawr Gwaelod y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr, ac fe fydd yr Adran Derbyniadau yn paratoi eich llythyr ar eich cyfer. Os ydych yn fyfyriwr sy’n parhau â’ch hastudiaethau, bydd angen i chi ymweld â derbynfa Cymorth i Fyfyrwyr, ar 3ydd llawr y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr, i ofyn am eich llythyr.
A. I drafod y goblygiadau cyllido yn sgil y newid yn eich amgylchiadau, bydd angen i chi gysylltu â’ch corff cyllido (Cyllid Myfyrwyr fwy na thebyg). Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau ynglŷn a ffioedd i’r Swyddfa Ffioedd Myfyrwyr ar 2il lawr y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr, e-bost fees@aber.ac.uk.
A. Bydd rhaid i chi dalu ffioedd hyd at y dyddiad pan ddychwelwch eich allwedd i’r Swyddfa Llety ym Mhenbryn.
A. Mae angen i chi siarad ag Ursula Byrne yn yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, e-bost uub@aber.ac.uk.
A. Mae’n bosib y bydd rhai adrannau yn cynnig ysgoloriaethau neu fwrsarïau penodol felly gallech eu holi nhw yn y lle cyntaf. Neu medrwch gael Benthyciad Datblygu Gyrfa neu wneud cais am grant gan gorff cyllido allanol megis Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Ceir manylion am y ffynonellau cyllid sydd ar gael ar y tudalennau Gwybodaeth i Uwchraddedigion.
A. Os dewch â’ch ffurflen i dderbynfa Cymorth i Fyfyrwyr ar 3ydd llawr y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr, gall aelod o staff ei wirio i chi. Yna gallwch anfon eich ffurflen drwy’r Swyddfa Ffioedd Myfyrwyr ar 2il lawr y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr.
A. Ar hyn o bryd ein polisi yw rhoi £200 tuag at gost Asesiad Seicolegydd Addysg myfyrwyr sy’n dioddef caledi. Dylai eich Lwfans Myfyriwr Anabl gwrdd â chostau unrhyw ddeunyddiau sydd arnoch eu hangen o ganlyniad i’r asesiad o’ch anghenion astudio.
A. I adennill eich treuliau bydd angen i chi weld y Cydlynydd Anabledd Cynorthwyol (Rhian Watkins) neu aelod o’r tîm Cymorth Dysgu i ofyn am ffurflen i’w hanfon at Cyllid Myfyrwyr.
A. Os ydych yn fyfyriwr newydd yn eich blwyddyn gyntaf dylech ymweld â’r dderbynfa ar Lawr Gwaelod y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr, ac fe fydd yr Adran Derbyniadau yn paratoi eich llythyr ar eich cyfer. Os ydych yn fyfyriwr sy’n parhau â’ch hastudiaethau, bydd angen i chi ymweld â derbynfa Cymorth i Fyfyrwyr, ar 3ydd llawr y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr, i ofyn am eich llythyr.
A. Ceir tystysgrifau i brofi eich bod yn fyfyriwr oddi wrth y Swyddfa Tystysgrifau (Swyddfa Academaidd) yn yr Hen Goleg, e-bost: aocstaff@aber.ac.uk.
A. Mae angen i chi ofyn i’r Swyddfa Tystysgrifau (Swyddfa Academaidd) yn yr Hen Goleg, e-bost: aocstaff@aber.ac.uk.
A. Ni fyddwch yn derbyn cadarnhad ysgrifenedig o’ch ymadawiad yn awtomatig. Os hoffech dderbyn cadarnhad ysgrifenedig bydd angen i chi gysylltu â’r Swyddfa Tystysgrifau (Swyddfa Academaidd) yn yr Hen Goleg, e-bost: aocstaff@aber.ac.uk.
A. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynglŷn a graddio a thystysgrifau i’r Swyddfa Graddio (Swyddfa Academaidd) yn yr Hen Goleg, e-bost graduation.office@aber.ac.uk.
A. Mae angen i chi roi dyddiad eich arholiad diwethaf ar y ffurflen a’i dychwelyd i Cymorth i Fyfyrwyr (gyda llofnod eich pennaeth adran) ar y diwrnod hwnnw neu cyn gynted â phosib wedi hynny.
A. I rai myfyrwyr, mae’n bosib talu ffi misol i gadw eich cyfleusterau GG, gan gynnwys eich cyfrif e-bost Prifysgol Aberystwyth a’r hawl i ddefnyddio llyfrgelloedd y Brifysgol. Ceir manylion am hyn yn y Cwestiynau a Holir yn Aml, y dylech fod wedi’u derbyn gyda’r ffurflen ymadael. Fel arall gallwch lawr lwytho copi o’r Cwestiynau a Holir yn Aml yma.
A. Bydd angen i chi lenwi ffurflen ymadael arall, ond gan sicrhau y tro hwn eich bod yn llenwi’r adran briodol ar gyfer ymadael yn barhaol. Os ydych eisoes wedi gadael Aberystwyth gallwn anfon ffurflen i’ch cyfeiriad cyfredol neu gallwn e-bostio fersiwn electronig atoch.
A. Ni fyddwch yn derbyn cadarnhad ysgrifenedig o’ch ymadawiad yn awtomatig. Os hoffech dderbyn cadarnhad ysgrifenedig bydd angen i chi gysylltu â’r Swyddfa Tystysgrifau (Swyddfa Academaidd) yn yr Hen Goleg, e-bost: aocstaff@aber.ac.uk
A. Ar ôl dychwelyd eich ffurflen atom caiff ei llofnodi gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol Cymorth i Fyfyrwyr. Yna caiff ei hanfon i’r Swyddfa Academaidd (a fydd yn cael llofnod y Deon ar gyfer ymadawiadau dros dro) i’w nodi ar gofnod eich cofrestriad fel myfyriwr. Gan amlaf mae’r broses yn cymryd tua pythefnos i’w chwblhau.
A. Y diwrnod olaf i ymadael yw diwrnod dysgu olaf y semester, oni bai eich bod yn ymadael ar sail feddygol neu dan amgylchiadau eithriadol.
A. Na. Dylid cyflwyno eich ffurflen gofrestru naill ai i’r Swyddfa Academaidd yn yr Hen Goleg, neu i Swyddfa’r Deon yn Adeilad Cledwyn.
A. I drafod y goblygiadau cyllido yn sgil y newid yn eich amgylchiadau, bydd angen i chi gysylltu â’ch corff cyllido (Cyllid Myfyrwyr fwy na thebyg). Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau ynglŷn a ffioedd i’r Swyddfa Ffioedd Myfyrwyr ar 2il lawr y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr, e-bost fees@aber.ac.uk.
A. Bydd rhaid i chi dalu ffioedd hyd at y dyddiad pan ddychwelwch eich allwedd i’r Swyddfa Llety ym Mhenbryn.
A. Os yw eich cyfrif wedi cael ei gloi oherwydd eich bod mewn dyled i’r Brifysgol bydd angen i chi gysylltu â’r Swyddfa Ffioedd Myfyrwyr, e-bost fees@aber.ac.uk. Weithiau bydd eich cyfrif yn cael ei gloi os nad yw eich cyfrinair yn ddiogel; os felly, bydd angen i chi gysylltu â’r Gwasanaethau Gwybodaeth, e-bost is@aber.ac.uk.
A. Na. Dylid cyflwyno eich ffurflen gofrestru naill ai i’r Swyddfa Academaidd yn yr Hen Goleg, neu i Swyddfa’r Deon yn Adeilad Cledwyn.
A. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ynglŷn a graddio a thystysgrifau i’r Swyddfa Graddio (Swyddfa Academaidd) yn yr Hen Goleg, e-bost graduation.office@aber.ac.uk.
A. Gallwch fewngofnodi i’ch Cofnod Myfyriwr i ddiweddaru’r manylion personol mae’r Brifysgol yn eu dal amdanoch chi, gan gynnwys eich cyfeiriad.
A. Mynd i’r Swyddfa Arian Parod yn Yr Hen Goleg a thalu gydag arian parod neu gerdyn credyd/debyd. Gyda cherdyn dros y ffôn trwy gysylltu â 01970 622043. Anfon neu ddod â siec, yn daladwy i ‘Prifysgol Aberystwyth’, i’r Swyddfa Arian Parod, Yr Hen Goleg, Stryd y Brenin, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2AX.
A. Mae’n rhaid gwneud y taliad er mwyn cael cofrestru am sesiwn academaidd 2012/13.
A. Rhaid ichi dalu erbyn 20fed Awst 2012.
A. Os oes gennych ymholiad yn gysylltiedig â thalu am ailsefyll eich arholiadau, cysylltwch â’r swyddfa ffioedd ar 01970 621582 neu ebostiwch fees@aber.ac.uk. Ynghylch taliadau yn unig ffoniwch 01970 622043.
Os nad yw eich cwestiwn yn cael ei ateb yma, cysylltwch â ni. Rydym yn gobeithio ehangu’r cwestiynau hyn gyda’ch mewnbwn chi!
A. Os ydych wedi gosod debyd uniongyrchol i dalu’ch ffioedd llety neu’ch ffioedd dysgu, byddwch yn talu naill ai bob mis neu bob tymor. Os dewisasoch dalu bob tymor fe fydd yr arian yn cael ei dynnu ar 5 Tachwedd, 9 Ionawr a 17 Ebrill. Os dewisasoch dalu bob mis bydd yr arian yn cael ei dalu ar y 5ed bob mis o Dachwedd tan fis Mai.