Eich Iechyd

Yn ogystal â’ch meddyg teulu lleol, gall Canolfan Iechyd y Myfyrwyr eich cynorthwyo trwy reolaeth iechyd proffesiynol.  Gellir cael cyngor am y canlynol: straen, pryder a iechyd meddwl, presgripsiynau, iechyd rhywiol, deiet, rhoi’r gorau i ysmygu a ffordd iachus o fyw.  Gallwn hefyd roi manylion cyswllt asiantaethau eraill yn y gymuned.

Rydyn ni’n cynnig apwyntiadau i weld y nyrs, sydd hefyd yn gallu eich cyfeirio at y meddyg sy’n ymweld yn wythnosol. Rhaid gwneud apwyntiad i weld y meddyg.

Gellir gweld Nyrs y Brifysgol rhwng 10 a.m. a 3 p.m.,
Dydd Llun i Ddydd Gwener.

Mae’r gwasanaeth ar gael i’r holl fyfyrwyr.

Llid yr Ymennydd a Septisemia

Cysylltu

I wneud apwyntiad galwch heibio, ffoniwch neu ebostiwch.

Ebost: nurse@aber.ac.uk / Ffôn: 01970 622087

Gweithwyr 

RolEnw
Rheolwyr Angela Lloyd-Jones
Ysgrifenyddes Feddygol  Hefina James

 

Mae’n bwysig bod myfyrwyr yn cael eu himiwneiddio â’r brechiadau canlynol cyn dod i Brifysgol Aberystwyth:

  •  MMR (Clwy’r Pennau, Y Frech Goch a Rwbela)
  • Meningitis C (o leiaf un mis cyn cychwyn yn y Brifysgol)
  • Twbercwlosis (Noder - os nad ydych eisoes wedi prawf croen a brechiad BCG (os oes angen), fe’ch anogir i’w gael cyn cychwyn yn y Brifysgol. Nid yw bellach yn arfer sgrinio myfyrwyr am twbercwlosis yn y Brifysgol).

Hefyd, dylech gofrestru gyda meddyg teulu lleol unwaith rydych wedi cychwyn ar eich astudiaethau. Byddan nhw’n gallu rhoi cyngor i chi ynghylch imiwneiddio.