Iechyd Meddwl

Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr a gafodd ddiagnosis fod ganddynt faterion iechyd meddwl ac fe’ch anogwn i ddatgelu eich cyflwr a’ch anghenion pan fyddwch yn gwneud eich cais neu cyn gynted ag y cewch wybod amdanynt wedi hynny. Fe’ch cefnogwn o fewn ein cylch gwaith fel darparwr addysg.  Mae hynny’n cynnwys:

  • Darparu llety’r Brifysgol os byddwch yn bodloni’r meini prawf cymhwyso, ac yn gwneud cais ac yn datgelu’ch cyflwr erbyn y dyddiad perthnasol;
  • Cymorth gan Ymgynghorydd Hygyrchedd a fydd yn hwyluso darpariaeth addasiadau rhesymol o fewn y Brifysgol;
  • Cymorth gan Ymgynghorydd Hygyrchedd a fydd yn cydgysylltu â sefydliadau allanol megis y Gwasanaethau Cymdeithasol/Nyrsys Seiciatrig Cymunedol, o safbwynt unrhyw wasanaethau nad ydynt yn wasanaethau addysgol y gallai fod eu hangen arnoch;
  • Gwybodaeth a chyngor gan Ymgynghorydd Hygyrchedd ynghylch a ydych yn gymwys i gael Asesiad o Anghenion Astudio a’r Lwfans Myfyrwyr Anabl;
  • Cymorth gan Fentor neu Diwtor Arbenigol pan fo Asesiad o Anghenion Astudio wedi argymell hynny;
  • Cyngor a chymorth diduedd a chyfrinachol gan Gynghorydd/Nyrs Iechyd Meddwl (nid yw’r gwasanaeth hwn yn dyblygu darpariaeth statudol ac ni all y Cynghorydd/Nyrs Iechyd Meddwl gael cymorth i’r myfyriwr gan y gwasanaethau statudol);
  • Darparu gwasanaeth cwnsela yn ystod oriau swyddfa os gofynnwch am hynny;
  • Hyfforddi staff ynghylch ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.

 

NID ydym yn darparu gwasanaethau sy’n gyfrifoldeb ar sefydliadau statudol gan gynnwys:

  • Cymorth gan feddygon teulu
  • Darparu asesiad iechyd meddwl
  • Cymorth gan Nyrsys Seiciatrig Cymunedol
  • Cymorth gan Weithwyr Cymdeithasol
  • Gwasanaethau Datrys Argyfwng