Newyddion
Cyngor ar lythyrau banc myfyrwyr
- Mae’r Swyddfa Derbyn Israddedigion yn darparu llythyrau i israddedigion newydd drwy gydol y flwyddyn. Bydd gofyn bod myfyrwyr wedi cofrestru ar eu cwrs, ac ni fydd ganddynt gyfrif banc yn y DU yn barod.
- Mae’r Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion yn darparu llythyrau i uwchraddedigion newydd cofrestredig sydd heb gyfrif banc yn y DU ar hyn o bryd. Maent yn darparu’r rhain tan fis Tachwedd. Bydd y Swyddfa Derbyn Uwchraddedigion hefyd yn darparu llythyrau banc i fyfyrwyr sy’n cychwyn ar eu cyrsiau ym mis Ionawr.
- Mae Cymorth i Fyfyrwyr yn darparu llythyrau i israddedigion ac uwchraddedigion cofrestredig nad ydynt ym mlwyddyn gyntaf eu hastudiaethau, ac i uwchraddedigion newydd ar ôl mis Tachwedd os nad oes ganddynt gyfrif banc yn y DU yn barod.
- Mae’r Ganolfan Saesneg Ryngwladol yn darparu’r holl lythyrau banc ar gyfer y myfyrwyr ar ei chyrsiau (cyrsiau hir a byr).
- Mae Iona Hopkins (Y Swyddfa Ryngwladol) yn darparu llythyrau i fyfyrwyr cyfnewid a myfyrwyr ymweliadol.
- Mae’r Swyddfa Academaidd yn darparu llythyrau i unrhyw fyfyrwyr cofrestredig, ar yr amod nad oes angen cyfeiriad, a dim ond os oes ganddynt gyfrif banc yn y DU yn barod.
Cyngor ar daliadau Benthyciad Myfyriwr
Os ydych yn ymwybodol y bydd unrhyw oedi gyda'ch taliadau Benthyciad Myfyrwyr gwelwch y cyngor isod os gwelwch yn dda –
- Os ydych yn byw mewn neuadd breswyl rydym yn eich cynghori i gysylltu â’r Swyddfa Ffioedd Myfyrwyr i ddweud wrthynt am yr oedi ac i drafod dyddiad estynedig ar gyfer talu’r ffioedd dysgu/llety
- Cadwch unrhyw arian sydd gennych ar gyfer pethau hanfodol
- Os ydych yn byw mewn neuadd arlwyo dylech fod yn gallu defnyddio eich cerdyn prydau bwyd
- Mae gennym gyfrifiaduron wedi’u gosod yng nghyntedd Canolfan Groesawu’r Myfyrwyr lle gallwch wirio sefyllfa eich benthyciad er mwyn osgoi defnyddio eich credyd ffôn
- Os oes gennych gyfrif banc efallai y gallwch gael mynediad i’ch gorddrafft myfyriwr
- Os ydych chi angen llyfr sy’n hanfodol awgrymwn eich bod yn cael gair â’r llyfrgell neu â’ch adran
- Mae gennym eisoes weithgaredd am ddim yn y neuaddau preswyl
- Gallwn hefyd ddarparu cerdyn argyfwng i gael bwyd os nad oes unrhyw un o’r uchod yn berthnasol, neu fenthyciadau argyfwng o’r Gronfa Caledi Myfyrwyr
- Os oes gennych unrhyw bryderon a’ch bod yn methu â rheoli’r uchod ewch i weld Ymgynghorydd Myfyrwyr – mae gennym ddau yn ymgynghorydd wrth law bob dydd.