Ymuno â'r Tîm

Tua Mawrth/Ebrill bob blwyddyn, rydym yn cychwyn ar y proses o recriwtio gwirfoddolwyr i fod yn aelodau o’r timau Cymorth Preswyl ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod. Caiff lleoliadau a manylion pellach eu hysbysebu ar wefan Adnoddau Dynol ar ôl i swyddi gwag gael eu cadarnhau.

Ceir dau fath o rôl: Cydlynwyr Cymorth Preswyl, sy’n arwain timau Cymorth Preswyl i gynnig a ffurfio profiad preswyl o’r safon uchaf ar gyfer myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth a Thiwtoriaid Preswyl sy’n gyfrifol am anghenion y preswylwyr mewn ardal benodol o ddydd i ddydd.

Er mwyn bod yn gymwys i ymuno â’r tîm, rhaid bod gennych gyswllt cadarn â’r Brifysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan, naill ai fel myfyriwr neu fel aelod o staff. (Dylid nodi nad yw Swyddogion Sabothol Undeb y Myfyrwyr yn gymwys). Oherwydd natur y swyddi gwirfoddol hyn, dylech ystyried yn ofalus a ydych yn gallu cynnig yr hyblygrwydd a’r ymrwymiad fydd ei angen cyn cyflwyno cais.

Er mwyn gwneud y rôl yn well, disgwylir i chi fyw mewn neuaddau preswyl ac fe ddarperir eich llety a thalu eich biliau gwasanaeth (ac eithrio galwadau ffôn personol). At hyn, bydd Cydlynwyr Cymorth Preswyl yn derbyn tâl bychan a delir ymlaen llaw bob tri mis.

Er ein bod yn gwneud pob ymdrech i’ch gosod mewn tîm o’ch dewis, rhaid inni gofio’r angen o ran y busnes. Rhaid i dimau gynnig cydbwysedd o ran sgiliau, profiad a meysydd pwnc a bod mor amrywiol â’r myfyrwyr yn gyffredinol. Bydd cynnig o le yn ystyried y materion hyn yn y lle cyntaf.

Dylech fedru dangos profiad o weithio gydag eraill, gan gynnwys dealltwriaeth dda o’r gofynion o ran cefnogi myfyrwyr mewn sefyllfa addysg uwch. Dylech hefyd feddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf er mwyn eich galluogi i ymdrin yn effeithiol â myfyrwyr preswyl a staff y neuaddau. Os ydych yn gwneud cais am swydd Cydlynydd rhaid ichi fod yn hyderus yn eich gallu i arwain ac annog eich tîm Cymorth Preswyl. Rhaid ichi hefyd feddu ar sgiliau trefniadol ardderchog yn ogystal â’r gallu i fod yn greadigol wrth gynllunio a gweithredu strategaethau i gwrdd ag anghenion myfyrwyr yn effeithiol.

Er mai y tu allan i oriau arferol swyddfa y byddwch yn cyflawni eich swydd fel arfer, rhaid ichi fod yn hyblyg wrth barhau â’r gwaith yn ystod y dydd, gan gynnwys mynychu cyfarfodydd tîm perthnasol neu weithgareddau datblygiad personol. Am wybodaeth bellach, darllenwch y Cwestiynau a Holir yn Aml.