Arferion Astudio a Sgiliau Academaidd
Crynodeb o’r cyrsiau a’r gwasanaethau
Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau a gwasanaethau ledled y Brifysgol i wella eich profiad astudio. Mae ein cyrsiau’n datblygu arferion academaidd da ymhellach trwy ddefnyddio technegau beirniadol mewn:
- ysgrifennu academaidd
- cyfathrebu mewn seminarau
- gweithio gyda darlithoedd
- adolygu ac arholiadau
- rheoli gwybodaeth
Ynghyd â’n cyrsiau rhad ac am ddim ac ymgynghoriadau unigol, rydym hefyd yn cydlynu amrywiaeth o fodiwlau israddedig sydd â chredydau a rhaglenni penodol eraill y gallech fod yn rhan ohonynt drwy eich adran academaidd. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant ymchwil ar y cyd â’r Swyddfa Astudiaethau Uwchraddedig.
Ar hyn o bryd mae’r cyrsiau a restrir ar y safle hwn ar gael yn Saesneg yn unig, ar wahân i ymgynghoriadau unigol sy’n rhan o gynllun Cymrodoriaeth Ysgrifennu’r Gymdeithas Lenyddol Frenhinol, sydd hefyd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.
*****
I gael manylion penodol dilynwch y dolenni isod neu cysylltwch â ni drwy’r Ganolfan Croesawu Myfyrwyr: student-support@aber.ac.uk
John Morgan, Cydlynydd Arferion Astudio
*****
Lawrlwytho manylion am Raglen Arferion Astudio 2011/2012 (i’w ddiweddaru)
Cyrsiau ysgrifennu, cyfathrebu, gwybodaeth a sgiliau proffesiynol
20 o seminarau ar ysgrifennu academaidd, cyfathrebu mewn seminarau, gweithio gyda darlithoedd, rheoli gwybodaeth, ymchwil ar-lein ac yn y llyfrgell, cynllunio portffolio datblygu proffesiynol (PDP) Dydd Mercher 14:00 - 17:00
16 o seminarau ar ysgrifennu academaidd a defnyddio adnoddau ar-lein uwch at ddibenion ymchwil. Dydd Mercher 14:00 - 15:00 |
Ymgynghoriadau ysgrifennu unigol ag Arbenigwr Ysgrifennu o’r Gymdeithas Lenyddol Frenhinol
Manylion llawn am Gymrodoriaeth Ysgrifennu’r Gymdeithas Lenyddol Frenhinol yn Aberystwyth Gellir gwneud apwyntiadau’n rhad ac am ddim ac maent yn gwbl gyfrinachol. Gall myfyrwyr dysgu o bell neu fyfyrwyr eraill sy’n rhan-amser neu sy’n astudio gartref drefnu apwyntiadau trwy Skype
I wneud cais am ymgynghoriad cysylltwch â’r Ysgrifenwyr ar writers@aber.ac.uk Mae’r Ysgrifenwyr wedi’u lleoli yn C28 Adeilad Llandinam Mae’n bosibl y gall y diwrnodau newid a chynigir yr ymgynghoriadau yn ôl disgresiwn yr Ysgrifenwyr. Nid yw Cynllun Cymrodoriaeth Ysgrifennu’r Gymdeithas Lenyddol Frenhinol yn cynnig gwasanaeth darllen proflenni na hyfforddiant iaith ac mae pob ymgynghoriad yn sesiwn ymgynghorol i’ch helpu â materion yn ymwneud ag ysgrifennu ac astudio. Mae’r ymgynghoriadau wedi’u cyfyngu i un apwyntiad cychwynnol ac ni chânt eu cynnig ar sail fynych yn awtomatig. |
Modiwlau israddedig
Manylion llawn am y modiwlau israddedig Byddwch yn cofrestru ar gyfer y modiwlau yng Nghanolfan y Celfyddydau (os ydych yn cofrestru’n hwyr cysylltwch â John Morgan jpm@aber.ac.uk)
|
Effective Communication in Management and Business (ECMB)Mae hwn yn gwrs dros ddau semester sydd ar gael i fyfyrwyr MBA, MSc Rheolaeth ac MSc Cyfrifeg yn yr Ysgol Rheolaeth a Busnes yn unig. Mae’n gweithio gydag ysgrifennu, cyfathrebu a defnyddio iaith yn briodol ar gyfer astudiaethau busnes uwchraddedig.
Manylion Llawn ECMB (fersiwn 2011, i’w diweddaru)
Gallwch gofrestru mewn sesiwn groesawu o ddydd Gwener 1 Hydref, 11yb, Prif Ddarlithfa Ffiseg |
Hyfforddiant Ymchwil UwchraddedigMae Cymorth i Fyfyrwyr yn cydweithio â’r Swyddfa Astudiaethau Uwchraddedig i roi mewnbwn i’r rhaglenni canlynol: Manylion llawn am agweddau Cymorth i Fyfyrwyr ar y rhaglenni hyfforddiant ymchwil
|