Modiwlau Academaidd
Manylion am fodiwlau academaidd
Modiwlau Israddedig
|
EL17720: Planning, Process and Product in Academic Writing
- Blwyddyn gyntaf: Mae hwn yn gwrs dau semester mewn ysgrifennu academaidd a fydd yn eich helpu i weithio â gofynion ysgrifennu traethawd beirniadol yn eich maes pwnc unigol. Bydd yn ymdrin â phob cam o’r broses ysgrifennu o ddehongli cwestiynau i gynllunio, drafftio, gorffen a thrafod gwerth beirniadol eich gwaith.
- Gall myfyrwyr ddewis grŵp seminar ar ddydd Llun neu ddydd Mawrth (nid y ddau).
Llandinam B22 (semester 1), Ystafell i’w chadarnhau (semester 2)
Seminar cyntaf ddydd Llun 3/10/11
Hugh Owen D54 (semester 1), Ystafell i’w chadarnhau (semester 2)
Seminar cyntaf ddydd Mawrth 4/10/11
|
|
EL27720: Advanced Communication in English in an Academic Context
- Ail flwyddyn: Mae hwn yn gwrs un semester mewn cyfathrebu ar gyfer datblygiad prosiect tîm, sy’n cynnwys amrywiaeth o wahanol arferion cyfathrebu academaidd, sy’n cynnwys datblygu gwefan ac ysgrifennu ar gyfer y we, cyfathrebu mewn seminarau, gwneud cyflwyniadau a chyfathrebu rhyngwladol drwy fideo-gynadledda. Gellir ei astudio yn semester 1 neu semester 2.
- Mae’n rhaid i’r myfyrwyr fynd i ddau seminar yr wythnos.
- Dydd Iau 14:10-16:00 a dydd Gwener 11:10-13:00
Ystafell: C63 Llandinam (Dydd Iau), C64 Llandinam (Dydd Gwener)
Seminar cyntaf ddydd Iau 6/10/11 (semester 1), dydd Iau 2/2/12 (semester 2)
|
|
MM20110 a MM31120: Written Communications in Management and Business (dewisiadau 10 ac 20 credyd)
- Ail neu drydedd flwyddyn: Caiff y ddau fodiwl hyn eu dysgu gyda’i gilydd yn semester 1. Bydd myfyrwyr MM20110 yn gorffen ar ddiwedd semester 1 a bydd myfyrwyr MM31120 yn parhau yn semester 2.
- Mae MM20110 yn fodiwl semester cyntaf yn unig mewn datblygu ysgrifennu beirniadol. Mae’n gweithio ag arddulliau cymharol o ysgrifennu ar gyfer traethodau ac adroddiadau ac yn eich annog i weithio gydag amrywiaeth o ffynonellau testun dilys i adnabod y cysylltiadau rhwng ysgrifennu proffesiynol ac ysgrifennu academaidd.
- Mae MM31120 yn fodiwl dau semester mewn datblygu ysgrifennu beirniadol sy’n symud ymlaen yn yr ail semester i weithio gyda materion yn ymwneud ag ysgrifennu academaidd a chyfathrebu. Mae’n golygu llawer iawn o waith tîm hunan-reoledig.
Semester 1
- Dydd Llun 10:00-11:50 (MM20110 a MM31120 wedi’u cyfuno)
- Ystafell: C43 Hugh Owen
- Seminar cyntaf ddydd Llun 3/10/11
Semester 2
- Dydd Llun: amser i’w gadarnhau
- Ystafell: i’w chadarnhau
|
Lawrlwythwch fanylion llawn y Rhaglen Arferion Astudio 2011/2012 (i’w ddiweddaru).