Cyrsiau Uwchraddedig yn Rhad ac am Ddim
Cwrs uwchraddedig yn rhad ac am ddim: Postgraduate Writing and Advanced Information Skills (dau semester)
Trosolwg: Mae hon yn rhaglen o seminarau ar brynhawn dydd Mercher sy’n ymdrin ag ysgrifennu uwchraddedig, wedi’u cyfuno â seminarau mewn sgiliau gwybodaeth ymchwil a llyfrgell uwch.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs? Mae’r cwrs ar gael i’r holl fyfyrwyr Meistr, MPhil a PhD, ac eithrio myfyrwyr MBA ac MSc o’r Ysgol Rheolaeth a Busnes*.
Bydd yn arbennig o berthnasol i fyfyrwyr sydd wedi cael seibiant rhwng astudiaethau israddedig ac uwchraddedig â’r rhai sy’n anghyfarwydd â gofynion astudiaethau uwchraddedig yng nghyd-destun prifysgolion y DU.
Gallwch gofrestru at gyfer yr holl seminarau neu rai ohonynt yn unig.
Canlyniadau dysgu: Ar ôl cwblhau’r cwrs llawn disgwylir y byddwch yn gallu:
- Dadansoddi gofynion amrywiaeth o aseiniadau uwchraddedig gwahanol
- Adnabod tebygrwydd a gwahaniaethau rhwng gofynion strwythurol ac arddulliadol fformatau aseiniad gwahanol (e.e. traethodau, adroddiadau, traethodau estynedig)
- Gweithio gydag arddulliau iaith a fformatau strwythurol priodol tuag at gyd-destun ehangach cyfathrebu ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd academaidd neu broffesiynol
- Gweithio gydag amrywiaeth ehangach o adnoddau gwybodaeth ar-lein at ddibenion ymchwil
Cofrestru a lleoedd: Cofrestrwch cyn gynted â phosibl. Os bydd nifer fawr o fyfyrwyr byddwn yn ailadrodd y sesiynau.
- Mewngofnodwch i AberLearn Blackboard
- Cliciwch ar yr hysbysiad Postgraduate Writing, Communication and Information Skills
- Cliciwch ar Enrol pan ofynnir i chi wneud hynny
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, e-bostiwch: study-skills@aber.ac.uk
Trefnir ar y cyd gan Cymorth i Fyfyrwyr a’r Gwasanaethau Gwybodaeth
| 12/10/11 | 14:00 - 15:00 | A14 Hugh Owen | Establishing focus with written assignments |
| 19/10/11 | 14:00 - 15:00 | A14 Hugh Owen | Essays and reports: comparative structures |
| 26/10/11 | 14:00 - 15:00 | Ystafell Hyfforddi i Llyfrgell Hugh Owen | Research at home: working on and off campus |
| 02/11/11 | 14:00 - 15:00 | A14 Hugh Owen | Creating a critical stance in a literature review |
| 09/11/11 | 14:00 - 15:00 | Ystafell Hyfforddi i Llyfrgell Hugh Owen | Article searching with Primo |
| 16/11/11 | 14:00 - 15:00 | A14 Hugh Owen | Introductions with impact |
| 23/11/11 | 14:00 - 15:00 | Ystafell Hyfforddi i Llyfrgell Hugh Owen | Bibliographic referencing software |
| 30/11/11 | 14:00 - 15:00 | A14 Hugh Owen | Maintaining clarity and focus (cancelled) |
| 15/02/12 | 14:00 - 15:00 | Ffiseg B | Maintaining clarity and focus |
| 22/02/12 | 14:00 - 15:00 | Ffiseg B | Keeping up to date in your subject of study |
| 29/02/12 | 14:00 - 15:00 | Ffiseg B | Checkpoints in the writing process: editing and proofreading |
| 07/03/12 | 14:00 - 15:00 | Ffiseg B | CADAIR and open access |
| 14/03/12 | 14:00 - 15:00 | Ffiseg B | Functional development of narrative structure |
| 21/03/12 | 14:00 - 15:00 | Ffiseg B | I'w gadarnhau |
| 28/03/12 | 14:00 - 15:00 | Ffiseg B | Establishing aspects of voice |
| Ffiseg B | Dissertation planning |
*Dylai myfyrwyr MBA ac MSc Rheolaeth/Cyfrifeg gofrestru ar gyfer rhaglen uwchraddedig benodol dros ddau semester, sef Effective Communication in Management and Business.
Nodyn ychwanegol: Mae’r rhaglen hon yn gweithio ar yr un lefel â’r modiwl hyfforddiant ymchwil uwchraddedig PGM0120, a gynigir gan y Swyddfa Astudiaethau Uwchraddedig, a chaiff rhai o’r sesiynau cynnar eu hailadrodd yn y ddau gwrs. Dilyniant cyffredin i fyfyrwyr PGM0120 yw ymuno â’r rhaglen yn semester 2. I gael rhagor o fanylion am PGM0120 gweler http://www.aber.ac.uk/cy/modules/deptcurrent/?m=PGM0120.