Cyrsiau Israddedig yn Rhad ac am Ddim
Cwrs Israddedig yn Rhad ac am Ddim: Writing, Communication and Information Skills
Trosolwg: Mae hon yn rhaglen o ddosbarthiadau ar brynhawn dydd Mercher sy’n ymdrin ag ysgrifennu traethodau, cyfathrebu mewn seminarau, sgiliau adolygu ac arholiad, gweithio gyda darlithoedd a gwybodaeth, sgiliau ymchwilio ar y we ac yn y llyfrgell.
Rydym yn anfon nodyn atgoffa i’r holl fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y rhaglen cyn bob dosbarth. Mae croeso i chi ddod i’r holl ddosbarthiadau neu i rai ohonynt yn unig.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs? Mae’r rhaglen ar gael i’r holl israddedigion a bydd yn arbennig o berthnasol i’r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â gofynion arferion astudio academaidd yn gyffredinol neu sut y gall yr arferion hyn amrywio yng nghyd-destun prifysgolion y DU.
Canlyniadau dysgu: Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llawn disgwylir y byddwch yn gallu:
- Adnabod gofynion allweddol aseiniadau academaidd
- Gweithio’n effeithiol â gwybodaeth a gyflwynir ac a drafodir mewn darlithoedd a seminarau mewn ffyrdd lle gellir defnyddio’r wybodaeth mewn aseiniadau academaidd
- Adnabod a defnyddio amrywiaeth o adnoddau’r Brifysgol ac adnoddau allanol yn briodol ar gyfer aseiniadau o fewn canllawiau’r Brifysgol ar gyfer arferion academaidd da
- Creu a chynnal dadl glir, gyda ffocws pendant ac sydd wedi’i strwythuro’n dda mewn aseiniadau ysgrifenedig
- Rheoli amser adolygu a strategaethau ar gyfer gweithio gyda gofynion arholiad
Cofrestru ar y rhaglen: cofrestrwch cyn gynted â phosibl.
- Mewngofnodwch i AberLearn Blackboard
- Cliciwch ar yr hysbysiad: Undergraduate Writing, Communication and Information Skills (Semester 2)
- Cliciwch ar Enrol ac yna ar Submit pan ofynnir i chi wneud hynny
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, e-bostiwch: study-skills@aber.ac.uk
Trefnir ar y cyd gan Cymorth i Fyfyrwyr, y Gwasanaethau Gwybodaeth a’r Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd.
| 01/02/12 | |||
| Sesiwn 1 | 14:00 - 15:00 | Ffiseg 320 | Using Word for essays |
| Sesiwn 2 | 15:15 - 16:15 | Ffiseg 320 | Finding everything on your reading list |
| 08/02/12 | |||
| Sesiwn 3 | 14:00 - 15:20 | Ffiseg 320 | Writing 1: interpreting essay questions |
| Sesiwn 4 | 15:30 - 16:50 | Ffiseg 320 | Seminars and lectures 1 |
| 15/02/12 | |||
| Sesiwn 5 | 14:00 - 15:00 | Ffiseg 320 | Evaluating web based material for your studies |
| Sesiwn 6 | 15:15 - 16:15 | Ffiseg 320 | Tools and techniques for avoiding plagiarism |
| 22/02/12 | |||
| Sesiwn 7 | 14:00 - 15:20 | Ffiseg 320 | Writing 2: essay structures |
| Sesiwn 8 | 15:30 - 16:50 | Ffiseg 320 | Writing 3: clarity and focus |
| 29/02/12 | |||
| Sesiwn 9 | 14:00 - 15:00 | Ffiseg 320 | Bibliographic referencing software |
| Sesiwn 10 | 15:15 - 16:15 | Ffiseg 320 | Article searching with Primo |
| 07/03/12 | |||
| Sesiwn 11 | 14:00 - 15:20 | Ffiseg 320 | Writing 4: paraphrasing and citation |
| Sesiwn 12 | 15:30 - 16:50 | Ffiseg 320 | Seminars and lectures 2 |
| 14/03/12 | |||
| Sesiwn 13 | 14:00- 15:00 | Ffiseg 320 | Research at home: workingn on and off campus |
| Sesiwn 14 | 15:15 - 16:15 | Ffiseg 320 | I'w gadarnhau |
| 21/03/12 | |||
| Sesiwn 15 | 14:00 - 15:20 | Ffiseg 320 | Writing 5: quotation and citation |
| Sesiwn 16 | 15:30 - 16:30 | Ffiseg 320 | PDP: from academic to professional development |
| 28/03/12 | |||
| Sesiwn 17 | 14:00 - 15:20 | Ffiseg 320 | Writing 6: the nature of an argument |
| Sesiwn 18 | 15:30 - 16:50 | Ffiseg 320 | Writing 7: revision and exam skills |