Siarter Y Myfyrwyr
Cyflwyniad
Diben y ddogfen hon yw nodi’n gryno ar ddu a gwyn yr hyn y gallwch chi ei ddisgwyl gennym ni a’r hyn yr ydym ni’n ei ddisgwyl gennych chi.
Bwriad arall yw rhestru’r nifer sylweddol o lyfrynnau a thaflenni sydd eisoes wedi eu paratoi ar gyfer myfyrwyr a staff y Sefydliad. Gobeithio y bydd y cynnwys yn ddefnyddiol.
Gan fod hon yn ddogfen fydd yn cael ei hadolygu’n gyson, byddem yn croesawu unrhyw sylwadau ar y cynnwys.
Cenadwri
-
Nod Aberystwyth yw bod yn Brifysgol o’r radd flaenaf o safbwynt gwaith addysgu ac ymchwil.
-
Rydym yn chwarae rhan gyflawn ym maes ymchwil rhyngwladol.
-
Rydym yn darparu cyfle i ddysgu i'r safonau academaidd uchaf, amgylchfyd eithriadol i astudio ynddo ac ansawdd cyfoethog i fywyd y myfyrwyr.
-
Rydym yn ymateb i anghenion cymdeithas am ymchwil ac am raddedigion addysgiedig a chanddyn nhw sgiliau arbennig.
-
Mae gennym gyfrifoldeb arbennig tuag at anghenion Cymru ac rydym yn ymwybodol iawn o’r rhan sydd i ni wrth gynnal a hyrwyddo diwylliant cynhenid Cymru a’r iaith Gymraeg.
-
Rydym yn ymwybodol o’r cyfrifoldeb sydd gennym tuag at y gymuned yr ydyn ni’n rhan ohoni ac y mae cydweithio â sefydliadau lleol yr un mor bwysig i ni ag yw cydweithio â’r cysylltiadau eraill sydd gennym yng ngwledydd Prydain, yn Ewrop ac yn y byd ehangach.
Amcanion Perthnasol
-
Cynnal a datblygu’r enw da a’r parch sydd i ni ar lefel rhyngwladol yn sgil y ffaith ein bod yn darparu addysg nodedig i israddedigion a graddedigion mewn nifer o bynciau yn y Celfyddydau, y Gwyddorau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.
-
Parhau i ehangu mynediad i fyfyrwyr o amrywiol gefndiroedd, gan gynnwys myfyrwyr o’r gymuned leol, ac i chwarae ein rhan ym mywyd economaidd, addysgol a diwylliannol y gymuned honno.
-
Ymestyn ein dulliau o ddarparu ein gwasanaethau o safbwynt astudio rhan-amser a dysgu o bell er mwyn ehangu mynediad i addysg uwch ac ymateb i'r galw am ddysgu gydol oes.
-
Cyflawni ein cyfrifoldeb arbennig tuag at anghenion addysgol Cymru.
-
Cynnal a datblygu perthynas agos â diwydiant ac â chyflogwyr, gan ymateb i'w anghenion trwy arfogi graddedigion â'r sgiliau a'r hyblygrwydd y bydd eu hangen arnynt yn y dyfodol wrth addasu i farchnad waith sy'n newid yn gyson.
-
Defnyddio’r dechnoleg newydd yn effeithiol er mwyn hybu’n hamcanion o ran gwaith dysgu a gwaith ymchwil.
Cyfle Cyfartal
Mae gennym bolisi cyfle cyfartal sy’n cynnwys materion yn ymwneud â myfyrwyr ac â staff.
Ein polisi yw na ddylai ymgeisydd am radd gyntaf neu radd uwch gael triniaeth llai ffafriol ar sail eu rhyw, oed, hil, anabledd, crefydd, statws priodasol neu statws fel rhiant, nac am unrhyw resymau tebyg.