Siarter Y Myfyrwyr

Gwybodaeth am y Swyddfa Dderbyn

Ffynonellau gwybodaeth am gyrsiau

Mae gennym bolisi cyfrifol ar gyfer derbyn myfyrwyr: er ein bod yn ymwybodol o’r gystadleuaeth am y myfyrwyr gorau, rydym yn cadw anghenion addysgol a chymdeithasol ein myfyrwyr mewn cof a’n dymuniad yw bod ymgeiswyr yn gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth. Rydym yn annog myfyrwyr (a’u rhieni) i ymweld ag Aberystwyth. Trefnir Dyddiau Ymweld i ymgeiswyr llwyddiannus yn ystod y flwyddyn, a Dyddiau Agored i ddarpar ymgeiswyr ac i’r cyhoedd yn gyffredinol ym mis Gorffennaf a Hydref bob blwyddyn. Os yw cyfweliad yn un o’r amodau derbyn, mae’r sefydliad yn talu 100% o gostau teithio yma ar y trên, a 50% o gostau teithio ar fws neu mewn car. Mae’r un cymorth ariannol ar gael hefyd i gynorthwyo ymgeiswyr llwyddiannus i ddod i Ddyddiau Ymweld. (Ni ellir rhoi cymorth ar gyfer y Dyddiau Agored).

Ffynonellau gwybodaeth am ein cyrsiau:

Y Prosbectws - sydd ar gael am ddim, yn Gymraeg ac yn Saesneg, o’r Swyddfa Denu a Derbyn Myfyrwyr, Canolfan Croeso Myfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth, Penglais, Aberystwyth, SY23 3FB Ffôn 01970 622021, ebost ug-admissions@aber.ac.uk, ar lein yn www.aber.ac.uk/cy/pub/ug Mae’r Prosbectwas yn rhestru’r holl gynlluniau gradd a HND sydd ar gael hyd at amser ei gyhoeddi, ac mae’r wybodaeth ynddo yn cynnwys amcan am y gofynion mynediad i bob cynllun gradd.

Gwefan y Brifysgol (www.aber.ac.uk). Mae’r wybodaeth ar y wefan yn adlewyrchu’r hyn sydd yn y Prosbectws, ac mae’n cynnwys unrhyw newidiadau a wnaed ers cyhoeddi’r Prosbectws.

Ceir gwybodaeth am y ddarpariaeth cyfrwng-Cymraeg ar www.aber.ac.uk/cy/cgg/learning-teaching/

Cyfeirlyfr UCAS a’r UCAS ‘Big Book’. Mae’r ddau gyhoeddiad hwn yn rhestru pob cynllun gradd a HND sydd ar gael ar adeg eu cyhoeddi.

Gwefan UCAS www.ucas.com – yr adnodd ‘Chwiliad Cwrs’ ar lein. Mae hyn yn adlewyrchu manylion a geir yng Nghyfeirlyfr UCAS ac mae’n cynnwys unrhyw newidiadau a wnaed ers ei gyhoeddi. Adnodd ‘Chwiliad Cwrs’ UCAS yw’r gofrestr gywiraf o’r cyrsiau gradd a HND a gynigir gan y Brifysgol.

Costau Ychwanegol sy’n gysylltiedig ag astudio

Gan ddibynnu ar eich dewis gwrs, gall fod costau ychwanegol yn gysylltiedig â theithiau maes ac ymweliadau allanol. Mae manylion y costau ychwanegol hyn wedi eu cyhoeddi ar 
http://www.aber.ac.uk/cy/student-finance/undergraduate-uk/additionalfeescharges/ ac fe’u gwelir yn y Prosbectws o 2013/14 ymlaen.

Gwybodaeth am ein Perfformiad

Mae Aberystwyth wedi ymrwymo i gynnal y safonau academaidd uchaf yn ei gwaith addysgu a’i gwaith ymchwil.

Caiff trefn sicrhau ansawdd pob prifysgol archwiliad rheolaidd gan yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd.

Mae gwefan Unistats (www.unistats.com) yn cynnwys llawer o wybodaeth am dderbyn myfyrwyr, cynnydd myfyrwyr a chyflogadwyedd, ynghyd â chanlyniadau Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr.

Chwilio am Rywle i Fyw

Mae gwybodaeth am lety ar gael ar wefan y Swyddfa Llety.

Rydym yn sicrhau lle mewn llety a reolir gan y Brifysgol i bob myfyriwr newydd, ar yr amod eu bod yn gwneud cais am lety erbyn y dyddiad penodol, a’u bod yn ymateb i’r cynnig llety erbyn y dyddiad a nodir yn y cynnig  am lety. Mae tua 48% o’n myfyrwyr amser llawn sy’n astudio ar y campws yn aros yn ein llety ni.

Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau am lety gan fyfyrwyr sydd â gofynion arbennig ac mae gennym nifer o ystafelloedd wedi eu haddasu yn Neuaddau’r Brifysgol. Byddwn yn gwneud ein gorau i neilltuo’r llety sydd fwyaf addas i ofynion yr unigolyn yn ystod pob blwyddyn astudio yn y Brifysgol, os bydd y ceisiadau am lety yn cyrraedd erbyn dyddiadau cau’r Swyddfa Llety.

Mae ein Swyddfa Llety yn cadw cofrestr o lety yn y sector preifat sydd fel arfer yn cynnwys llety sy’n addas i barau ac i fyfyrwyr â theuluoedd, yn ogystal â lleoedd i fyfyrwyr sengl mewn tai rhannu, fflatiau a fflatiau un-stafell. Bydd staff y Swyddfa Llety yn hapus i roi cyngor i chi ar unrhyw agwedd ar lety yn Aberystwyth.

Lles Myfyrwyr

Credwn y dylai eich cyfnod yn y Brifysgol fod yn un hapus a llwyddiannus, a fydd yn eich paratoi am eich gyrfa a’ch cyfrifoldebau yn y dyfodol. Ym Mhrifysgol Aberystwyth mae ein pwyslais ar “ddatblygu’r person cyfan”. Yn ogystal â datblygiad deallusol, rydym eisiau i bob un o’n myfyrwyr fanteisio ar yr holl gyfleoedd a gynigir yma ar gyfer datblygiad personol, emosiynol, cymdeithasol a chorfforol. Mae canolfan newydd, sef y Ganolfan Cymorth i Fyfyrwyr, yn ganolfan-bob-peth i unrhyw un sy’n wynebu rhwystrau i’w hiechyd a’u hapusrwydd. Mae hyn yn cynnwys Canolfan Iechyd Myfyrwyr, Cymorth i Ddysgu (sgiliau astudio, rhugledd mewn iaith, anableddau), Cyngor ar Gyllid, Cyngor i Fyfyrwyr Tramor, a lles cyffredinol. Y mae hefyd yn fan i droi ato ar gyfer ymgynghori, cynghori ac i gael gwybodaeth am rwydwaith ehangach o gymorth yn y gymuned.

Os ydych yn byw mewn neuadd bydd gennych eich tiwtor preswyl eich hun sy’n gyfrifol am weld eich bod yn ymgartrefu ac yn addasu i fywyd myfyriwr. Ond hefyd mae gan yr holl fyfyrwyr diwtor personol i droi ato/ati ynglŷn â chynnydd academaidd a dewisiadau cwrs. Mae Aberystwyth yn gyson yn cael ei dyfarnu ar y brig yng Nghymru, ac o fewn y 10 uchaf yn y DU, am Fodlonrwydd Myfyrwyr. Fe wnawn bopeth yn ein gallu i wneud eich bywyd yn y Brifysgol yn un hapus a phroffidiol.

Gofal Plant

Mae gan y Brifysgol ddwy Feithrinfa, uned babanod a grŵp chwarae ar ôl oriau ysgol. Rhoddir blaenoriaeth i rieni sy’n fyfyrwyr. Gellir cael rhagor o fanylion yn http://www.aber.ac.uk/cy/childcare/