Siarter Y Myfyrwyr

Darpariaeth Gymraeg

Mae datblygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn agwedd bwysig o raglen academaidd Aberystwyth ac y mae’n agwedd sy’n unol ag ymrwymiad ein Siarter i roi sylw arbennig i anghenion addysgol Cymru, gan ystyried yr iaith a’r diwylliant Cymraeg.

Mae gennym Bolisi Dwyieithrwydd ac mae dogfennau swyddogol (llawlyfrau a ffurflenni) a gyhoeddir gan Weinyddiaeth ac Adrannau Academaidd y Brifysgol i'w dosbarthu’n gyffredinol i fyfyrwyr yn rhai dwyieithog. Wrth ysgrifennu i’r Brifysgol byddwch yn derbyn ateb yn yr un iaith  a ddefnyddiwyd gennych chi. Gwneir darpariaeth hefyd i annog a chynorthwyo’r myfyrwyr a’r staff hynny sy’n dymuno dysgu’r Gymraeg.

Cafodd Cynllun Iaith y Brifysgol, (www.aber.ac.uk/cy/cgg) a baratowyd yn unol â gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg, ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg ym mis Rhagfyr 2003. Mae’r Cynllun yn egluro polisi’r Brifysgol ar ddarparu addysg a gwasanaethau cyfrwng Cymraeg.

Mae gan bob myfyriwr yr hawl i sefyll eu harholiadau trwy gyfrwng y Gymraeg. Os yw’ch cwrs yn un a gyflwynwyd trwy gyfrwng y Saesneg ond yr hoffech sefyll yr arholiad trwy gyfrwng y Gymraeg, rhaid i chi roi gwybod i Ganolfan Gwasanaethau'r Gymraeg ar y ffurflen briodol erbyn 1 Tachwedd yn Semester 1 ac erbyn 1 Mawrth yn Semester 2.