Siarter Y Myfyrwyr

Gair Am Gyllid

Cymorth i Fyfyrwyr

Ffioedd

Rhaid i fyfyrwyr sicrhau bod eu hymrwymiadau ariannol yn gysylltiedig â thalu ffioedd dysgu a/neu ffioedd llety’r Brifysgol yn eu lle erbyn dechrau pob sesiwn academaidd. Ceir manylion am ddewisiadau talu a gwybodaeth bellach yn http://www.aber.ac.uk/cy/student-finance 

Cymorth i fyfyrwyr

Os ydych yn fyfyriwr amser llawn o un o wledydd Prydain sy’n talu ffioedd a’ch bod mewn trafferthion ariannol dybryd, gellid eich ystyried i dderbyn cymorth o’r Gronfa Galedi i Fyfyrwyr.

Ni allwn ystyried cais gan israddedigion onibai eu bod eisoes wedi gwneud cais am Fenthyciad Myfyrwyr llawn. Un o reoliadau’r Llywodraeth yw hwn ac mae’n benderfyniad nad oes gennym ni reolaeth drosto.

Gweinyddir y gronfa gan y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr ac mae’n rhoi grantiau neu fenthyciadau di-log. Os yw un o’r amodau canlynol yn berthnasol i chi, gallech gael eich ystyried:

os oes arnoch chi angen cymorth ychwanegol i gwrdd â chostau penodol

nad oes arian gennych ar eu cyfer o ffynonellau cyllid statudol (neu eraill);

i ddarparu taliadau brys mewn achosion annisgwyl o argyfwng;

i helpu am gyfnod os yw myfyriwr yn ystyried gadael addysg uwch oherwydd trafferthion ariannol


Serch hynny, gall grantiau neu fenthyciadau gael eu rhoi weithiau dan amodau eraill os gellir profi bod eu hangen.

Caiff yr arian ei ddarparu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru o flwyddyn i flwyddyn.

Os ydych chi’n cael trafferth wrth reoli eich arian byddem yn eich cynghori’n gryf i gwrdd â’n Meddyg Arian.

I gael ffurflen gais am gymorth o’r Cronfeydd arbennig hyn neu i weld y Meddyg Arian cysylltwch â’r:

Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr

Canolfan Croeso Myfyrwyr

Campws Penglais

Aberystwyth

SY23 3FB

Ffôn: 01970 621761

 

Ffynonellau eraill

Os nad ydych yn derbyn arian gan yr AALl, gallech fod ar dir i dderbyn un o’r gwobrau canlynol sy’n cael eu gweinyddu gan y Brifysgol:

Cronfa Alumni ar gyfer Caledi Myfyrwyr

Mae ffurflenni cais ar gyfer y gronfa hon i’w cael gan y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr

Gwobrau Keasbey

Gwobrau Gwilym a Dilys Edmunds

Gwobrau Thomas Charles Edwards

Mae ffurflenni cais am y gwobrau hyn i’w cael gan y Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr a rhaid eu cyflwyno erbyn diwedd mis Hydref.

Gwobrau Teithio Gregynog

Ar gyfer teithio dramor yn ystod gwyliau’r haf i bwrpas diwylliannol. Dylid cyflwyno ceisiadau i’r Swyddfa Academaidd erbyn y Pasg.

Gwobr Antur Paul Metcalfe

Er mwyn teithio i fannau anghysbell neu anodd yn ystod gwyliau’r haf. Dylid cyflwyno cais i'r Swyddfa Academaidd erbyn y Pasg.