Siarter Y Myfyrwyr

Astudio

Gellir cael manylion llawn unrhyw wybodaeth bwysig sy’n gysylltiedig â’ch astudiathau ar y wefan, fel a ganlyn:

Modiwlau -            www.aber.ac.uk/cy/modules

Disgrifiadau o’r modiwlau, canlyniadau dysgu, manylion cyswllt dosbarthiadau a’r dull asesu.

Cynlluniau Astudio -           www.aber.ac.uk/cy/study-schemes

Cyflwynir strwythur eich cwrs, gan gynnwys pa fodiwlau sy’n orfodol (craidd), pa rai y gallech ddewis eu cymryd (dewisol/opsiynol) a lle mae gennych ddewis agored (dewis agored).

Manylion Rhaglenni -         http://www.aber.ac.uk/cy/programme-specs/disclaimer/

Yn y fan hon ceir manylion am nod ac amcanion eich cwrs, canlyniadau cyffredinol y dysgu a’r sgiliau y disgwylir y bydd myfyrwyr nodweddiadol yn eu meithrin.

Eich cyfrifoldeb chi yw ymgyfarwyddo â manylion y modiwlau a’r cynlluniau astudio a ddewisoch.

Lleoliadau gwaith

Mae treulio cyfnod yn gweithio neu astudio mewn lle penodol yn rhan annatod o rai cynlluniau gradd. Mae’r rhain yn cynnwys cynlluniau gradd mewn iaith/ieithoedd lle bydd yn rhaid i fyfyrwyr dreulio cyfnod dramor, a nifer o ryng-gyrsiau yn yr Adran Cyfrifiadureg a Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig lle mae blwyddyn o leoliad gwaith wedi ei ymgorffori yn yr astudiaeth o’r pwnc. Mae cyrsiau eraill yn cynnwys cyfnodau byrrach o brofiad gwaith neu fodiwl profiad gwaith, e.e. Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff. Mae cyrsiau TAR yn cynnwys lleoliadau mewn dros 50 o ysgolion uwchradd partner ledled Cymru.

Mae Cynllun y Flwyddyn mewn Gwaith yn agored i fyfyrwyr ar unrhyw gynllun gradd. Gallwch gael blas o yrfa mewn mwy nag un maes o bosibl yn ogystal â datblygu sgiliau a gwella canlyniadau'ch gradd a'ch gobaith am swydd ar yr un pryd. Nid yw’n rhaid i'r gwaith fod â chysylltiad uniongyrchol â'ch pwnc.

Yn ogystal â hysbysebu amrywiaeth o gyfleoedd profiad gwaith cenedlaethol a rhyngwladol, mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd hefyd yn trefnu lleoliadau gwaith am gyfnodau byrrach gyda chwmnïau bach a chanolig eu maint yn y canolbarth. Cyfnodau ‘rhagflas’ yw’r rhain sy’n para tua 6-10 wythnos fel arfer, lle mae myfyrwyr yn gweithio ar brosiect penodol. Caiff y ddau fath eu cynnal ar ran rhaglen Go Wales.

Lleisio barn

Yn Aberystwyth mae gan fyfyrwyr ddigon o gyfle i fod yn rhan o’r broses o wneud penderfyniadau ar faterion academaidd.

Mae gan bob adran Bwyllgor Ymgynghorol Staff/Myfyrwyr gydag aelodau staff a chynrychiolwyr myfyrwyr. Myfyrwyr cyffredin yw’r cynrychiolwyr sy’n cael eu hethol i’ch cynrychioli chi ar y pwyllgor – gall unrhwy fyfyriwr wirfoddoli a bob blwyddyn byddwch yn cael cyfle i bleidleisio am y rhai yr hoffech i’ch cynrychioli. Mae’r cynrychiolwyr hyn yn mynegi barn y myfyrwyr ar y pwyllgor ac mewn nifer o ffyrdd eraill.

Bob mis gall cynrychiolwyr y cyrsiau fynd i gyfarfodydd Cyngor y Cynrychiolwyr Cwrs, sy’n cael ei drefnu gan Urdd y Myfyrwyr. Yn y cyfarfodydd hyn maent yn trafod materion cyfoes ac yn rhannu gwybodaeth am ddatblygiadau yn eu hadran.  Mae hyn yn darparu gwybodaeth i Urdd y Myfyrwyr am yr hyn sydd ei angen i gefnogi corff y myfyrwyr ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cynrychiolwyr am y datblygiadau mwyaf cyfredol hyd a lled y Brifysgol.  Mae gan fyfyrwyr gynrychiolaeth hefyd ar y rhan fwyaf o Bwyllgorau’r Brifysgol. Urdd y Myfyrwyr, gyda chymorth y Brifysgol, sy’n trefnu hyfforddiant a chefnogaeth i’r cynrychiolwyr. Mae cymhelliant ar gael i’r rhai sy’n mynd yn gynrychiolwyr cwrs.

 

Gallwch weld ein Cod Ymarfer ar Gynrychioli Myfyrwyr ar www.aber.ac.uk/cy/quality-assurance/student-representation/

Rydym hefyd yn mynnu bod adrannau yn gofyn am farn myfyrwyr trwy gyfrwng holiaduron. Gofynnir i chi lenwi’r holiadur a’i roi yn ôl i’r adran cyn gynted â phosibl ar ôl eu dosbarthu. Ar ôl eu dadansoddi, trafodir y canlyniadau mewn cyfarfod o Fwrdd yr Adran a’u dwyn i sylw’r Pwyllgor Staff/Myfyrwyr perthnasol. Anfonir adroddiad hefyd i’r Gyfadran trwy gyfrwng cofnodion Bwrdd yr Adran.

Yn ddiweddar, bu canlyniadau’r holiaduron hyn ymhlith y dogfennau angenrheidiol i’w cyflwyno ar gyfer yr arolwg o adrannau.

Mae’n bwysig eich bod yn defnyddio’r holiaduron i fynegi’ch barn, ac hefyd eich bod yn cymryd rhan yn nhrafodaethau’r Pwyllgor Staff/Myfyrwyr yn eich adran chi, neu o leiaf eich bod yn ymwybodol ohonynt.

Hefyd gwahoddir israddedigion ar eu blwyddyn olaf i gymryd rhan yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (http://www.thestudentsurvey.com) a gynhelir yn flynyddol ar draws y Deyrnas Unedig, sy’n cwmpasu pynciau megis

  1. Addysgu
  2. Asesu ac Adborth
  3. Cymorth Academaidd
  4. Gweinyddiaeth a Rheolaeth
  5. Adnoddau Dysgu
  6. Datblygiad Personol
  7. Bodlonrwydd Cyffredinol

 

Mae canlyniadau’r arolwg hwn yn ymddangos ar Unistats.direct.gov.uk.

Ehangu mynediad

Y mae Aberystwyth yn cydnabod pwysigrwydd crynhoi credydau fel dull o gydnabod cyflawniadau unigolion, ac rydym yn fodlon cynnwys y credydau hyn yn rhan o’r cyfanswm sydd eu hangen i ennill gradd.

Wrth ehangu mynediad rydym hefyd yn cydnabod y rhan sydd i ddysgu o bell. Cynigir nifer o gyrsiau galwedigaethol trwy’r Uned Dysgu Agored. Mae Aberystwyth yn aelod cyflawn o’r Consortiwm Mynediad lleol ac o Rwydwaith y Colegau Agored.

Adnoddau i gynorthwyo’ch astudiaethau

Mae tudalennau cychwynnol y Prosbectws yn cynnwys adran ar Fywyd Academaidd sy’n egluro fframwaith y graddau a'r drefn fodiwlar. Ceir hefyd amlinelliad o’r dulliau dysgu ac addysgu. Ond ceir mwy o wybodaeth benodol am ddysgu ar gronfa-ddata’r modiwlau lle rhoddir manylion am bob modiwl yn unigol.

Yn yr adran ar yr adnoddau academaidd yn y Prosbectws cyfeirir at lyfrgelloedd y Brifysgol ac at Lyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n agos iawn i’r campws, ac hefyd at adnoddau cyfrifiadur a chlyweled.

Cyhyd â’ch bod yn fyfyriwr cofrestredig yn y Sefydliad a chyhyd â’ch bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau arbennig sydd gan y gwasanaeth dan sylw, mae gennych hawl i ddefnyddio’r Llyfrgell a’r adnoddau cyfrifiadurol. Mae taflenni a chanllawiau ar yr holl wasanaethau a gynigir i'w cael gan y Gwasanaethau Gwybodaeth (gweler Atodiad 2).

Mae’r Ganolfan Cymorth i Ddysgwyr (www.aber.ac.uk/cy/student-support/learner-support ) yn cynnig i’r holl fyfyrwyr yr hawl i ddosbarthiadau arferion dysgu gan gynnwys ysgrifennu academaidd, cyfathrebu a sgiliau arholiad. Mae staff yr uned hefyd wedi eu hyfforddi i roi cymorth i fyfyrwyr sydd ag anawsterau dysgu, er enghraifft dyslecsia.

Ymhlith yr hyn a ddysgir y mae sgiliau cyfathrebu, y gallu i ddatrys problemau a datblygiad personol.