Siarter Y Myfyrwyr
Astudio : Rhan 2
Tiwtoriaid Personol
Dewisir Tiwtor Personol o'r adran(nau) i bob myfyriwr a'r tiwtor hwnnw/honno fydd yn gyfrifol am gynllun astudio'r myfyriwr. Bydd y tiwtor yn rhoi cefnogaeth ac arweiniad i chi gyda'ch astudiaethau ac hefyd o bosibl yn rhoi cyngor ar faterion personol a allai effeithio ar eich gwaith. Cewch gyfle i gyfarfod â’ch Tiwtor Personol deirgwaith o leiaf ym mlwyddyn gyntaf eich cwrs ac o leiaf ddwywaith y flwyddyn wedi hynny. Trefnir cyfarfodydd ychwanegol yn ôl yr angen. Gall y tiwtor personol eich cyfeirio at arbenigwyr eraill, os byddwch chi'n cytuno i hynny ac os byddwch yn rhannu gwybodaeth gyfrinachol â nhw. (Gweler ein Datganiad ar Gyfrinachedd, www.aber.ac.uk/cy/regulations/contents/student/appendix-6/)
Cyngor Ynglŷn â Gyrfa
O'r flwyddyn gyntaf ymlaen, bydd ein Gwasanaeth Gyrfaoedd yn eich helpu i ddatblygu'ch sgiliau a'ch diddordebau a'u perthnasu i yrfa addas. Defnyddir amryw ddulliau: sgyrsiau gydag unigolion, darlithoedd, gweithdai, profion seicometrig a phrofion technoleg gwybodaeth. Mae'r Gwasanaeth yn cydweithio'n agos ag adrannau academaidd fel bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn cael cymryd rhan yn y Rhaglen Datblygu Sgiliau ac Ymwybyddiaeth (blwyddyn gyntaf). Mae gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd lyfrgell eang; cyhoeddir manylion rheolaidd am swyddi gweigion a trefnir sgyrsiau ac ymweliadau gan gyflogwyr bob blwyddyn. Ceir y wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaethau hyn ar dudalennau'r We http://careers.aber.ac.uk/cas_web/interface/view_content.php
Eich cyfrifoldeb chi yw ymweld â'r Gwasanaeth, defnyddio'r adnoddau a threfnu i weld Ymgynghorydd.
Dod i Nabod Aberystwyth
Mae Penwythnos y Glas yn gyflwyniad gwych i fywyd myfyrwyr yn Aberystwyth, ac fe geir manylion llawn amdano yn
Llawlyfr y Myfyrwyr Newydd sy’n cael ei anfon at bob ymgeisydd llwyddiannus o ganol mis Awst ymlaen. O fis Mehefin ymlaen ceir gwybodaeth ddefnyddiol hefyd ar www.aber.ac.uk/cy/successful-applicants . Mae'r myfyrwyr yn cyrraedd ar y dydd Gwener cyn i'r tymor ddechrau ac yn treulio tri diwrnod yn paratoi ar gyfer byw a dysgu yn Aberystwyth. Trefnir rhaglen lawn ac amrywiol ar gyfer y penwythnos, sy'n cynnwys sesiynau ar wasanaethau lles a gwasanaethau academaidd, ac ar faterion cymdeithasol ac adnoddau hamdden. Cynhelir hefyd sesiynau sgiliau astudio a rhaglen o weithgaredd grŵp er mwyn eich helpu i ymgyfarwyddo â'r campws a'r gwasanaethau.
Bwriad y penwythnos yw meithrin ymwybyddiaeth o gymuned ac ar yr un pryd rhoi cyflwyniad i fywyd academaidd. Cewch gyfle i gwrdd â staff academaidd, i ddod i nabod eich adran(nau) ac i gael cymorth a chyngor wrth ddewis eich cyrsiau. Mae'r rhaglen yn tywys myfyrwyr i mewn i fywyd prifysgol a'u helpu i wneud y mwyaf o'u cyfle o'r diwrnod cyntaf.
Swyddfa'r Deoniaid
Y Deoniaid yw Cadeiryddion eu Cyfadrannau a'u gwaith hwy yw cadarnhau unrhyw newidiadau hwyr i'ch dewis o fodiwlau, unrhyw newid i'ch cynllun astudio neu newid eich Cyfadran. Y Deoniaid hefyd fydd yn penderfynu ar gosb addas i fyfyrwyr sy'n methu â bodloni anghenion adran o ran presenoldeb neu gyflwyno gwaith. Mae Swyddfa'r Deoniaid ar gampws Penglais yn fan cyswllt rhwng y myfyrwyr a'r Swyddfa Academaidd. Yn ogystal â bod yn wasanaeth i drefnu cyfweliadau gyda'r Deoniaid, mae'r swyddfa'n cadw taflenni a llawlyfrau'r Swyddfa Academaidd a gall myfyrwyr hefyd adael yn y swyddfa unrhyw ohebiaeth sydd i'w anfon yn ôl i'r Swyddfa Academaidd.
Urdd y Myfyrwyr
Urdd Myfyrwyr Aberystwyth yw’r corff sy’n cynrychioli myfyrwyr y Brifysgol ac mae’n darparu pob math o wasanaethau i’r myfyrwyr o’i ganolfan ar Gampws Penglais. Mae cymorth ar eich cyfer ar bob math o faterion academaidd a lles yn y Ganolfan Gynghori ac Ymgynghori. Os hoffech gymryd rhan mewn chwaraeon neu ymuno â chymdeithasau yr Urdd sy’n trefnu Gweithgaredd a Gwirfoddoli i Fyfyrwyr ar ran y Brifysgol. Ceir yr holl wybodaeth ar www.aberguild.co.uk/cy
Nid oes tâl i ymaelodi ag Urdd y Myfyrwyr ac mae pob myfyriwr yn dod yn aelod yn awtomatig.
Mae gennych, serch hynny, hawl i beidio ag ymaelodi ac ni fyddwch o dan unrhyw anfantais os penderfynwch weithredu'r hawl hon.
Os Oes Gennych Gwyn
Ein polisi yw ymdrin â chwynion yn gyflym ac effeithiol mewn modd cyfrifol. Byddwn yn delio â chwynion am faterion academaidd neu anacademaidd yn ddi-oed ac yn deg. Os teimlwch bod gennych gwyn, yr hyn ddylech chi ei wneud yn gyntaf yw trafod yn anffurfiol gyda'r aelod o staff dan sylw. Gan amlaf y mae gwneud hyn yn datrys y mater. Os na fydd hyn yn gweithio, gallwch anfon cwyn ysgrifenedig at Bennaeth yr Adran berthnasol. Mae'r drefn gywir wrth gyflwyno cwyn i’w gweld ar www.aber.ac.uk/cy/regulations/contents/student/appendix-2/.
Graddedigion
Wrth gofrestru bydd graddedigion sy'n cymryd cyrsiau a ddysgir trwy ddarlithoedd yn derbyn manylion am ofynion presenoldeb ac am y dulliau asesu. Bydd graddedigion ymchwil yn derbyn copi o’r Llawlyfr i Raddedigion Ymchwil cyn iddyn nhw ddod i Aberystwyth, ac ar ôl cyrraedd fe fyddan nhw'n derbyn copi o'r Llawlyfr Hyfforddi Graddedigion. Mae'r ddau ar gael o'r Swyddfa Denu a Derbyn Myfyrwyr.