Siarter Y Myfyrwyr

Eich Astudiaethau Academaidd

Cofrestru

Ar ddechrau pob blwyddyn academaidd bydd angen i chi gofrestru ar y modiwlau y byddwch yn eu cymryd yn y ddau semester.

Os byddwch yn newid eich meddwl ac yn dymuno newid unrhyw un o’r modiwlau gallwch wneud hynny yn y pedair wythnos gyntaf (myfyrwyr blwyddyn gyntaf) ac yn y tair wythnos gyntaf (myfyrwyr eraill) os cewch ganiatâd gan gyd-gysylltydd eich cynllun gradd. Rhaid cael caniatâd y Deon i unrhyw newid ar ôl pedair wythnos.

Gall pob myfyriwr israddedig weld ei ffeil myfyriwr ar y We. Gall myfyrwyr ddefnyddio’u ffeil unrhyw bryd ar ôl iddynt gofrestru a dylent edrych arni’n rheolaidd. Gosodir canlyniadau yr holl arholiadau ar y We o fewn dau ddiwrnod i gyfarfod Bwrdd Arholi’r Gyfadran berthnasol.

Eich cyfrifoldeb chi yw edrych yn rheolaidd ar eich ffeil myfyriwr ar y We a rhoi gwybod i ni am unrhyw gamgymeriadau ac unrhyw newid yn y modiwlau yr ydych wedi cofrestu arnynt.

Rheoliadau academaidd

Wrth gofrestru byddwch yn derbyn copi o’r llyfryn Rheolau, Rheoliadau a Gwybodaeth i Fyfyrwyr – http://www.aber.ac.uk/cy/regulations/contents/progress

Mae’r adran ar Reolau a Rheoliadau yn cynnwys materion megis disgyblu, gwarchod data, neuaddau preswyl, defnydd o adnoddau chwaraeon a chyfrifiadurol, a thalu ffioedd.

Mae’r adran Gwybodaeth yn cynnwys cynnydd academaidd, tynnu’n ôl o’r Brifysgol, arholiadau a gwasanaethau i fyfyrwyr.

Mae’r llyfryn hefyd yn cynnwys Trefn Weithredu Rhyddid Mynegiant a’r Canllawiau ar Aflonyddu Rhywiol a Hiliol.

Ceir adran ar wahân yn ymdrin â Rheoliadau Academaidd ar Gynnydd Academaidd, sydd ar gael ar y We ar www.aber.ac.uk/cy/student/academic/regulations  ac o'r Swyddfa Academaidd.

Mae gennych hawl i astudio a bod yn fyfyriwr yn Aberystwyth cyhyd â’ch bod yn bodloni amodau’r Rheoliadau Academaidd ar Gynnydd Academaidd, ac yn cydymffurfio â’r Rheolau a’r Rheoliadau.

Eich cyfrifoldeb chi yw mynd i’ch dosbarthiadau a gorffen eich gwaith ymarferol, cyflwyno’ch traethodau a’ch aseiniadau erbyn y dyddiadau cau, a llwyddo yn yr arholiadau angenrheidiol.

Byddwch yn derbyn adborth ar safon eich gwaith a’ch cynnydd yn rheolaidd yn ôl trefn eich adran arbennig chi.

Eich cyfrifoldeb chi yw cydymffurfio â gofynion eich adran, a mynd i weld darlithwyr a thiwtoriaid pan drefnir cyfarfodydd.

Arholiadau ac Asesu

Ceir gwybodaeth ddefnyddiol am arholiadau ac asesu yn y Llawlyfr Arholiadau sydd ar gael gyda'ch Ffeil Myfyriwr ar y We. Mae’n rhoi cyfarwyddyd defnyddiol am arholiadau ac asesu ac mae ynddo hefyd wybodaeth ar y drefn am Ymddygiad Annheg, ar oblygiadau bod yn absennol o arholiadau, ac ar apeliadau. http://www.aber.ac.uk/cy/student/ug-issues/exam-assess/handbook/

Mae manylion am y ffordd yr asesir pob modiwl i’w cael ar Gronfa-ddata’r Modiwlau (www.aber.ac.uk/cy/modules) . Caiff rhai eu hasesu trwy arholiad yn unig, rhai trwy asesu parhaus, ac eraill trwy gyfuniad o’r ddau ddull.

O dan y drefn farcio arholiadau fe fyddwch yn hollol ddi-enw a defnyddir eich cyfeirnod yn unig, onibai ei bod yn anymarferol gwneud hynny.

Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i ni am unrhyw amgylchiadau arbennig a allai effeithio’n sylweddol ar eich gwaith. Os ydych chi’n dioddef o salwch sy’n para mwy na 7 diwrnod, rhaid i chi gyflwyno tystysgrif feddygol am y cyfnod dan sylw. Os bydd unrhyw salwch o gwbl, waeth faint y bydd yn para, yn effeithio ar eich perfformiad mewn arholiad, fe ddylech wneud yn sicr bod y Bwrdd Arholi’n cael yr holl wybodaeth berthnasol, gan gynnwys tystysgrif feddygol, er mwyn iddyn nhw ystyried eich achos.

Fel arfer gallwch ddisgwyl y bydd gwaith cwrs a asesir yn cael ei roi yn ôl ichi o fewn tair wythnos, os yw’r adborth yn bwysig i’ch cynnydd fel myfyriwr. Os nad oes modd cadw at y nod hwn (e.e. am fod y gwaith wedi ei gyflwyno’n hwyr, maint y prosiect neu bwysau gwaith staff) gallwch ddisgwyl cael gwybod hynny a chael gwybod pryd i ddisgwyl y gwaith yn ei ôl.

Mae’r Brifysgol wedi cymeradwyo’r Egwyddorion Adborth Effeithiol canlynol ar gyfer myfyrwyr:

  1. Dylai adborth fod yn glir, fel y gall myfyrwyr ei ddeall a’i berthnasu i’r meini prawf asesu;
  2. Dylai adborth gynorthwyo myfyrwyr i nodi eu cryfderau a’r agweddau sydd angen eu gwella;
  3. Dylai adborth fod yn gymesur ac yn briodol i’r math o asesiad, ei amseru, a maint y dosbarth;
  4. Dylai pob myfyriwr gael gwybodaeth glir a hwylus ar y mathau o asesu a natur ac amseru’r adborth y byddant yn ei gael gogyfer â phob math o asesiad;
  5. Mae gan fyfyrwyr hawl i eglurhad am y marciau er mwyn eu helpu i ddeall beth a wnaethant yn dda a sut y gallant wella.

Ein nod yw rhoi gwybod i chi am eich canlyniadau o fewn dau ddiwrnod gwaith ar ôl eu cadarnhau gan y Bwrdd Arholi perthnasol. Bydd yr holl ganlyniadau yn ymddangos yn eich Ffeil Myfyriwr ar y We.

Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i’r Swyddfa Academaidd os yw’ch cyfeiriad cartref neu’ch cyfeiriad yn ystod y tymor yn newid, neu os y dylid anfon eich canlyniadau i gyfeiriad gwahanol.

Cyflwyno’ch aseiniadau

Bydd eich adran yn gosod dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno gwaith i’w asesu ac mae’n bwysig eich bod chi’n cadw at y dyddiadau hyn.

Bydd cyflwyno gwaith yn hwyr, neu beidio â chyflwyno gwaith, yn dwyn cosb yn ei sgil. Cewch amlinelliad o’r cosbau hyn gan eich adran ac mae’n bwysig eich bod yn gwybod amdanyn nhw ymlaen llaw. Gall y cosbau amrywio o adran i adran.

Myfyrwyr Anabl a myfyrwyr sydd ag anawsterau dysgu penodol

Ein nod yw darparu profiad o’r safon uchaf i bob myfyriwr, a sicrhau bod ein hadnoddau academaidd ar gael i bawb sy’n cwrdd â’n gofynion mynediad. Rydym yn cydnabod ystod o arddulliau dysgu ac yn eich cynorthwyo trwy: asesiadau o anghenion myfyrwyr, cymorth unigolyddol, mentoriaid, pobl i gymryd nodiadau, trefniadau unigol mewn arholiad a thechnoleg gynorthwyol. Gallwn hefyd eich cynorthwyo gyda’ch cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl a ffynonellau cyllid eraill.

Mae gwybodaeth am drefniadau arholiad i fyfyrwyr sydd ag anghenion arbennig ar gael ar y We ar www.aber.ac.uk/cy/student/ug-issues/exam-assess/exam/ ac o'r Swyddfa Academaidd.

Eich cyfrifoleb chi yw rhoi gwybod i ni am unrhyw anabledd neu anhawster dysgu penodol a allai effeithio ar eich gallu i sefyll arholiad o dan y drefn arferol.

Gonestrwydd ac ymddygiad teg

Asesir sgriptiau arholiad ac aseiniadau cwrs ar y dybiaeth mai eich gwaith chi’ch hun ydyn nhw.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y gwaith y byddwch yn ei gyflwyno i’w asesu a’ch ymddygiad mewn arholiad yn cydymffurfio â’n hegwyddorion a’n gofynion o ran gonestrwydd ac ymddygiad teg.

Bydd yr adran yn rhoi gwybod i chi am yr union amodau sydd i’r arholiadau ffurfiol, e.e. pa ddeunydd y mae gennych hawl i fynd gyda chi i arholiad. Rhaid i chi wneud yn sicr eich bod yn cydymffurfio â’r gofynion hyn.

Ceir manylion llawn am y drefn ar ymddygiad annheg yn y Llawlyfr Arholiadau
(www.aber.ac.uk/cy/student/ug-issues/exam-assess/handbook/ ).