Siarter Y Myfyrwyr
Ein Perthynas â Chyflogwyr
Y mae gan y Brifysgol berthynas agos â chyflogwyr yn y Deyrnas Unedig a dramor. Mae swyddfa Cyswllt Swyddi y Gwasanaeth Gyrfaoedd yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr lleol i hysbysebu a llenwi swyddi rhan-amser yn ystod y tymor a’r gwyliau, ac mae nifer o’r cwmnïau hyn hefyd yn cynnig lleoliadau gwaith a chyfle am gyfnodau blas-ar-waith i fyfyrwyr a graddedigion. Caiff pob cyfle am brofiad gwaith neu waith i raddedigion eu hysbysebu ar gronfa-ddata ar-lein y Gwasanaeth Gyrfaoedd o swyddi gweigion. Yn ogystal â rhoi gwybodaeth i ffeiliau cyflogwyr y Llyfrgell Yrfaoedd, mae rhai cyflogwyr yn ymweld â’r Brifysgol i roi cyflwyniadau recriwtio ac i gynnal gweithdai rhyngweithiol seiliedig ar sgiliau i fyfyrwyr.
Sgiliau Trosglwyddadwy
Un o’n hamcanion yw cynnal a datblygu partneriaeth glòs â chyflogwyr, er mwyn deall yn fwyaf arbennig yr hyn y mae’n nhw’n chwilio amdano mewn graddedigion, ac ymateb i’r anghenion hynny. Wrth gyflwyno cyrsiau i’w cymeradwyo mae’n rhaid i bob adran nodi pa sgiliau personol a rhyng-bersonol y bydd y myfyrwyr yn eu datblygu o ddilyn y cwrs, a dangos sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni. Mwyfwy mae adrannau’n cyflwyno lleoliadau gwaith yn elfennau o’u cynlluniau gradd yn ogystal â chynnig cyfleoedd gwaith gyda chyflogwyr ar brosiectau go iawn. Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnig cymorth, trwy gyfrwng nifer o Hyrwyddwyr Menter, i'r rhai sy'n dymuno dechrau eu busnes eu hunain, ac ar ran GO Wales, a mae'n cyd-drefnu hyfforddiant Cymru-gyfan i ddarpar weithwyr ar eu liwt eu hunain.
Disgwylir i’r holl israddedigion weithio drwy broses y Brifysgol o gynllunio datblygiad personol, sy’n cael ei alw yn Arolwg o Gynnydd Academaidd a Phersonol (AGAPh). Mae hyn yn rhoi cyfle iddynt fyfyrio ar y sgiliau y maent yn eu datblygu yn ystod eu gwaith cwrs ac yn ystod gweithgaredd arall yn y Brifysgol (gan gynnwys profiadau gwaith allgyrsiol) ac i fynegi'n groyw ac effeithiol y nodweddion sy'n eu gwneud yn gyflogadwy wrth ddechrau chwilio am swydd. Cânt eu tywys drwy’r broses yn ystod dosbarthiadau tiwtorial academaidd neu bersonol ac y mae gennym raglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus (PDP) i uwchraddedigion.
Cyswllt â diwydiant, masnach a'r sector gyhoeddus
Trwy’r cynllun Blwyddyn mewn Gwaith, mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn rhoi myfyrwyr mewn lleoliadau gwaith ar hyd a lled y byd. Mae hefyd yn trefnu lleoliadau gwaith i israddedigion a graddedigion gyda chwmnïau bach a chanolig eu maint ledled Gymru i gyflawni prosiectau penodol. Sefydlwyd swyddfa Cyswllt Swyddi, ar y cyd ag Undeb y Myfyrwyr, i fod yn siop-bob-peth i fyfyrwyr sy’n chwilio am waith rhan-amser a gwaith gwyliau (gwirfoddol neu am dâl) yn lleol. Y mae cysylltiadau agos â chyflogwyr yn lleol ac ychydig ymhellach wedi creu cenhedlaeth o swyddi a lleoliadau gwaith – ac mae myfyrwyr yn cael eu hannog i fanteisio ar y cyfleoedd hyn i gynyddu eu cyflogadwyedd. Mae cyflogwyr yn hoffi’r hyblygrwydd a gynigir yn Aberystwyth – yn enwedig y ffaith bod myfyrwyr, o bob disgyblaeth, ar gael am leoliadau gwaith yn ystod y gwyliau yn ogystal â’r Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith blaengar.
Cefnogi Menter a Throsglwyddo Gwybodaeth
Mae’r Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori [GMY] yn fan cyswllt i fusnesau sy’n dangos diddordeb i ddefnyddio’r arbenigedd, yr adnoddau a’r gwasanaethau a gynigir gan Brifysgol Aberystwyth ac maent yn mynd ati i ddatblygu a hwyluso cysylltiadau â chwmnïau allanol. Mae’r Gwasanaeth wedi ei leoli yn y Ganolfan Ddelweddu ar Gampws Penglais ac mae hefyd yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau arbenigol i staff a myfyrwyr: gweler rhai enghreifftiau isod.
Eiddo Deallusol:
Mae Tîm Trosglwyddo Technoleg y GMY yn rhoi cyngor ac arweiniad ar faterion cysylltiedig ag Eiddo Deallsuol. Mae rhagor o wybodaeth ac adnoddau ar gael ar lein i staff a myfyrwyr, gan gynnwys ‘Eiddo Deallusol a Masnacheiddio: Canllaw i Academyddion’.
http://www.aber.ac.uk/cy/ccs/staff-students/intellectual-property/
Cymorth wrth Ddechrau ar Fenter a Busnes:
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi myfyrwyr, graddedigion a staff sy’n dymuno dechrau busnesau newydd, yn enwedig lle maent yn gysylltiedig â gwybodaeth ac arbenigedd y Brifysgol.
Mae cyfleoedd yn cynnwys:
Cymorth wrth ddechrau busnes a mentora un-i-un
Cymryd rhan mewn gweithgaredd menter
Cael clywed anerchiadau ysbrydoli gan unigolion a lwyddodd mewn busnes
Derbyn gwybodaeth am gyfleoedd dechrau busnes/menter
Ymuno â’r clwb Menter
I gael rhagor o wybodaeth a rhestr lawn o ddigwyddiadau, ewch i www.aber.ac.uk/crisalis
Cynorthwyo Hyfforddiant Sgiliau Lefel Uwch:
Canolfan Sgiliau Aber-Bangor:
Mae Aberystwyth hefyd yn gweithio’n agos gyda Phrifysgol Bangor, ac mae’r rhith-ganolfan, Canolfan Sgiliau Aber-Bangor, a gyllidir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, yn bodoli nid yn unig i gynnig i fusnesau cyswllt gwell â sgiliau a darpariaeth hyfforddi yn y ddau sefydliad ond hefyd i hwyluso datblygiad cwricwlwm trwy ei waith gyda Chynghorau’r Sector Sgiliau.
http://absc.bangor.ac.uk/index.php.cy?
Cyfleoedd Cyllido Uwchraddedig ‘Cysylltiedig â Busnes’:
Gellir cael rhagor o wybodaeth ar y cyfleoedd cyllido sydd ar gael ar hyn o bryd, gan gynnwys Mynediad i Feistr (Access to Masters) ac Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth, ar wefan GMY: