Siarter Y Myfyrwyr
Ein Perthynas â'r Gymuned
Adnoddau sydd ar agor i’r cyhoedd
Mae llawer o adnoddau’r Brifysgol ar agor i’r cyhoedd. Gan mai myfyrwyr sy’n cael blaenoriaeth wrth eu defnyddio, cyfyngir yn anorfod ar ddefnydd y cyhoedd ac weithiau codir tâl.
Gall y cyhoedd ddefnyddio Canolfan y Celfyddydau, y Llyfrgell (gwaith ymchwil yn unig), Adnoddau Chwaraeon, ac Orielau’r Ysgol Gelf.
Mae gennym raglen flynyddol o ddarlithoedd y gall y cyhoedd fanteisio arnynt.
Darperir rhaglen o gyrsiau hamdden bob tymor.
Dysgu Gydol Oes
Yr ydym wedi ymrwymo i gynnig ystod amrywiol o gyrsiau annibynnol, wedi eu credydu, Tystysgrifau Addysg Uwch, ym meysydd Celf a Dylunio, Y Dyniaethau, Ieithoedd Modern, Cymraeg, y Gwyddorau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, a Diplomâu mewn Ecoleg Maes a Chadwraeth. Mae pob un ar gael yn y gymuned ledled canolbarth a gorllewin Cymru. Ein nod yw hyrwyddo mynediad hyblyg i addysg uwch yn ogystal â gwella dealltwriaeth myfyrwyr o’r amgylchedd ieithyddol a diwylliannol y maent yn rhan ohono. Rydym hefyd yn cynnig ystod o gyrsiau Cymraeg i Oedolion.
Myfyrwyr a’r gymuned
Bu Aber yn nodedig erioed am fod yn brifysgol gyfeillgar sy’n chwarae’i rhan yn y gymuned leol. Mae hyn yn deillio’n rhannol o draddodiad hir o waith elusennol RAG Aber RAG, sy'n cael ei redeg gan fyfyrwyr ac sydd wedi llwyddo i godi mwy na £5m i elusennau dros y blynyddoedd diweddar. Ychwanegwyd at hyn bellach gan waith cymunedol ‘dim prob’, sydd wedi trefnu bod nifer fawr o fyfyrwyr bob blwyddyn yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau, megis:
•trefnu barbeciw haf a pharti Nadolig i blant lleol dan anfantais
• cymryd rhan mewn prosiectau celfyddydol a diwylliannol cymunedol
• myfyrwyr adran y Gyfraith yn cynorthwyo’r Gwasanaeth Cynghori lleol, y Samariaid a Chymorth i Fenywod
• gwaith adeiladu ac addurno i’r henoed
• gosod larymau tân i’r henoed
• helpu mewn ysgolion cynradd lleol gyda disgyblion a chanddyn nhw anawsterau dysgu
Mae’r enghreifftiau uchod a nifer o brosiectau eraill wedi dod â myfyrwyr a’r gymuned leol i gysylltiad agosach â’i gilydd.