Modlwlau Cyflwyniad

Cyflwyniad

Dyma ychydig o nodiadau i egluro prif nodweddion y system ddysgu modiwlar. Gobeithio y byddant yn dileu unrhyw ansicrwydd sydd gennych, a'u gwneud yn llai brawychus.

Dyma'r termau pwysicaf:

Modiwl: uned o astudiaeth a'i nod addysgol ei hun o fewn cynllun gradd. Enw arall am fodiwl yw cwrs.

Credyd: mae pob modiwl yn ennill credyd yn ôl ei berthynas â'r cynllun gradd. Mae modiwl sy'n werth 10 credyd yn golygu tua 100 awr o astudio.

Semester: hanner y flwyddyn ddysgu, sef fel arfer, 12 o wythnosau dysgu a rhyw ddwy neu dair wythnos am arholiadau.

Bydd gofyn i fyfyrwyr amser llawn gofrestru bob blwyddyn am fodiwlau sy'n werth cyfanswm o 120 credyd. Bydd modiwlau unigol yn werth 10 credyd, modiwl dwbl yn werth 20 credyd, hanner modiwlau yn werth 5 credyd ac yyb. Er mwyn bod yn gymwys i wneud gradd tair blynedd, rhaid i chi gwblhau modiwlau sy'n werth 360 credyd, ac am radd 4 blynedd, 480 credyd ac yyb. Sylwch fod y cyfanswm credyd yn golygu bod yn gymwys i wneud gradd. Nid yw'n cyfeirio at safon eich gwaith.

Bydd y rhan fwyaf o fodiwlau'n cael eu dysgu a'u hasesu yn ystod un semester. Enw'r rhain yw modiwlau un semester (neu "fodiwlau dirddwys"). Mae rhyw ychydig o fodiwlau dau semester (neu "fodiwlau lled-ddwys") ar gael yn y flwyddyn gyntaf, a dysgir y rhain ar hyd y ddau semester a'u harholi ar ddiwedd y sesiwn ym mis Mehefin.

Felly os ydych yn fyfyriwr amser llawn byddwch fel arfer yn gwneud modiwlau sy'n werth 60 credyd fesul semester. Er hynny, cewch wneud lleiafswm o 50 credyd ac uchafswm o 70 credyd fesul semester os yw cydgysylltydd eich cynllun gradd yn cytuno â hynny, ac ar yr amod eich bod yn ennill 120 credyd yn ystod y flwyddyn gyfan.

Gallwch weld gwybodaeth am fodiwlau a chynlluniau astudio yn:

Modiwlau: www.aber.ac.uk/en/modules/

Cynlluniau Astudio: /www.aber.ac.uk/cy/study-schemes/