Modlwlau Cyflwyniad

Cyfeirnod y Modiwl

Mae'r rhan fwyaf o'r wybodaeth yn y crynodeb yn ddigon amlwg, ond efallai y bydd y canlynol yn eich helpu:

Cyfeirnod y Modiwl

CY 3 01 10
Yr Adran sy'n cynnig y modiwl (Cymraeg) Lefel y modiwl Rhif y modiwl Y nifer o gredydau i'r modiwl

Dyma rai enghreifftiau eraill:
LA30110 modiwl yn Adran y Gyfraith trwy gyfrwng y Saesneg ar Lefel 3, sy'n werth 10 credyd
HY30120 modiwl yn yr Adran Hanes trwy gyfrwng y Saesneg ar Lefel 3, sy'n werth 20 credyd
FF20110 modiwl yn yr Adran Ffrangeg trwy gyfrwng y Gymraeg ar Lefel 2, sy'n werth 10 credyd

Cedwir manylion am eich modiwlau yn eich cofnodion yn y gofrestrfa, felly mae hi'n bwysig eu hysgrifennu'n gywir.

Anghenion Eraill

Fe welwch y canlynol hefyd yn y crynodeb i bob modiwl:

Rhagofynion

Rhaid bod wedi gwneud y cyrsiau neu'r modiwlau dan y pennawd hwn, naill ai cyn dod i Brifysgol neu yn Semester 1 cyn Semester 2.

Cydofynion

Rhaid i chi wneud y modiwlau dan y pennawd hwn yn ystod y sesiwn hwn.

Gwrthdaro

("Elfennau Amghymharus")
Ni ellwch hefyd wneud y modiwlau sydd dan y pennawd hwn.

Mae'r canlynol i'w gweld ym manylion Fframwaith y Cynllun Gradd:

Modiwlau Craidd:

Rhaid i chi wneud y modiwlau hyn.

Modiwlau Dewis:

Rhaid i chi wneud o leiaf y nifer a nodwyd o'r modiwlau hyn.

Modiwlau Dewis Agored:

Dewis rhydd, gyda chaniatâd cydgysylltydd eich cynllun gradd.