Modlwlau Cyflwyniad

Confensiynau Ar Gyfer Dosbarthu Graddau Modiwlar

Dyma'r rheolau a fydd fel arfer yn pennu dosbarthiad gradd anrhydedd:

  1. Bydd arholwyr pob modiwl yn gosod yr ymgeisydd yn un o'r categorïau canlynol, gan roi marc iddo a fydd yn adlewyrchu'r hyn a gyflawnwyd gan yr ymgeisydd o fewn y categori hwnnw:
    Tabl 1 - Dosbarthiadau Graddau
    I 70% ac uwchlaw hynny
    II(1) 60-69%
    II(2) 50-59%
    III 40-49%
    Pasio 35-39%
    Methu llai na 35%
  2. Pennir dosbarth cyffredinol y radd, fel arfer, yn unol â'r dosbarthiad yn Nhabl 1 uchod ar sail y marc a geir ar gyfartaledd am bob modiwl, o roi pwysedd i bob marc yn ôl y drefn a nodir yn 3. isod.
  3. Wrth gyfrif y marc a geir ar gyfartaledd, bydd y rheolau canlynol yn berthnasol:
    1. Rhoir pwysedd i bob marc yn ôl gwerth y dredydau sydd i bob modiwl (h.y. bydd modiwlau 20 credyd yn werth dwywaith y modiwlau 10 credyd ac yyb.
    2. Trefnir marciau mewn dull 'gwahaniaethol', yn unol â'r rheolau canlynol:
      Band 3: yr 80 credyd gorau ar Lefel 3, sydd â phwysedd o 3
      Band 2: yr 80 credyd ail-gorau ar Lefel 3 a Lefel 2, sydd â phwysedd o 2
      i: gweddill credydau Lefel 3 a 2 a Lefel 1, sydd â phwysedd o 1

      Sylwer: Wrth dosbarthu marciau o fewn Bandiau, ni chaniateir i farc ar Lefel 2 ymddangos mewn Band sy'n uwch na Band lle bydd marc Lefel 3 yn ymddangos.
    3. Mae confensiynau cynlluniau gradd 4 blynedd a 5 mlynedd wedi'u seilio ar y cynllun hwn, ond bod nifer y credydau'n amrywio ychydig. Ceir manylion gan adrannau neu gan y Swyddfa Academaidd.