Rheoliadau Academaidd
Rhagair
Amgaeir copi o'r rheol ynglyn â chynnydd academaidd a dylai myfyrwyr ymgyfarwyddo â'i gynnwys. Dylai unrhyw fyfyriwr sydd yn cael anhawster â'i h/astudiaeth ymdrin â'r mater yn fuan gyda'r Adran(nau) perthnasol.
Rheoliad - Cynnydd Academaidd
- 1.1.
- Caniateir i fyfyriwr barhau â'i gwrs astudiaeth cymeradwy yn unig os gwelir bod ei gynnydd yn dderbyniol, yn seiliedig ar ei bresenoldeb mewn dosbarthiadau, ar ganlyniadau boddhaol mewn arholiadau ac ar gwblhau'n foddhaol unrhyw waith arall a osodwyd i'r myfyriwr.
- 1.2.
- Gall myfyriwr y mae ei gynnydd academaidd yn anfoddhaol:
- 1.2.1.
- gael ei wahardd rhag sefyll arholiadau yn eu crynswth neu ran ohonynt;
- 1.2.2.
- gael ei orchymyn i ymadael â'r Brifysgol am gyfnod neu yn barhaol.
- 1.3.
- Bydd gan y Deoniaid yr awdurdod i orchymyn i fyfyriwr y mae ei gynnydd academaidd yn anfoddhaol:
- 1.3.1.
- gael ei wahardd rhag sefyll yr arholiadau i gyd neu ran ohonynt; ac/neu
- 1.3.2.
- ymadael â'r Brifysgol am gyfnod neu yn barhaol.
Pwyllgor Cynnydd Academaidd
- 2.1.
- Sefydlir Pwyllgor Cynnydd Academaidd (PCA) gan y Senedd. Aelodau'r Pwyllgor hwn fydd:
- 2.1.a.
- Y Dirprwy Is-Ganghellor (Materion Myfyrwyr).
- 2.1.b.
- Deoniaid y Celfyddydau, y Gwyddorau Cymdeithasol, a Gwyddoniaeth (neu ddirprwyon).
- 2.1.c.
- Yr Uwch-Diwtor
Tri fydd y Cworwm ar gyfer y Pwyllgor. - 2.2.
- Dyletswydd y Pwyllgor hwn fydd ystyried apeliadau a wnaed gan fyfyrwyr yn sgil penderfyniadau a wnaed gan Ddeoniaid neu gan Fyrddau Arholi'r Cyfadrannau, neu gan Bwyllgor Ymchwilio i honiadau o Ymddwyn yn Annheg fel y'i sefydlwyd dan y Rheoliad Academaidd ynghylch Ymddwyn yn Annheg.
- 2.3.
- Ni fydd Deon y Gyfadran berthnasol nac unrhyw aelod arall sy'n ymwneud yn uniongyrchol ag astudiaethau'r myfyriwr/fyfyrwraig yn cymryd rhan ym mhenderfyniad y Pwyllgor nac yn bresennol wrth i'r Pwyllgor ddod i'r penderfyniad hwnnw. Gall ef neu hi gyflwyno gwybodaeth ac ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor.
- 2.4.
- Os yw apêl wedi ei seilio ar dystiolaeth feddygol sy'n ymwneud â Byrddau Semester 1 ond nad yw'n dod i'r amlwg tan Fyrddau Semester 2, gweithredir y drefn ganlynol:
- 2.4.1.
- ystyrir y dystiolaeth feddygol yn y lle cyntaf gan Banel Achosion Arbennig y Deoniaid, fel arfer wrth iddo gyfarfod i ystyried tystiolaeth yn ymwneud â'r gyfres nesaf o arholiadau, er mwyn penderfynu a yw'n dod o fewn i'r canllawiau a osodwyd gan y Panel;
- 2.4.2.
- ystyrir apeliadau o'r fath gan y Pwyllgor Cynnydd Academaidd yng ngoleuni sylwadau'r Panel ar ddilysrwydd y dystiolaeth sydd bellach wedi dod i law.
- 2.5.
- Bydd gan fyfyrwyr yr hawl i apelio i'r Senedd yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor Cynnydd Academaidd.