Myfyrwyr Sy'n Methu Bodloni'r Gofynion Ynglyn  Mynychu Dosbarthiadau a/neu Gyflwyno Gwaith
1.1.
Ar ddechrau pob sesiwn bydd pob Adran yn darparu ar gyfer pob myfyriwr a fydd yn dilyn cyrsiau yn yr Adran,
ddogfen yn cynnwys manylion ar bob cwrs a gynigir gan yr Adran yn nodi'r gofynion ynglyn â phresenoldeb myfyrwyr mewn
dosbarthiadau, cyflwyno gwaith, dulliau asesu ac arholiadau. Dylai myfyrwyr sicrhau eu bod yn derbyn copi o'r ddogfen
hon ar ddechrau pob sesiwn a'u bod yn hollol gyfarwydd â'i gynnwys.
1.2.a.
Lle nodwyd gan aelod o'r staff bod myfyriwr wedi methu â chyflawni'r amodau ynglyn â mynychu dosbarthiadau
ac/neu ynglyn â chyflwyno gwaith, dylai Pennaeth yr Adran/Bwrdd, neu berson a enwebwyd yn ei le/lle, drafod y mater
gyda'r myfyriwr, gan ymgynghori yn ffurfiol ymhellach os yw'n ystyried bod hynny'n angenrheidiol.
1.2.b.
Os na chafwyd esboniad boddhaol ar ôl trafod gyda'r myfyriwr ac ar ôl unrhyw ymgynghori priodol, bydd
Pennaeth yr Adran/Bwrdd yn anfon adroddiad i'r Deon priodol, ynghyd â chopi o'r Adroddiad hwnnw i'r
Cofrestrydd.
1.2.c.
Bydd y Deon yn gofyn am unrhyw adroddiadau eraill y tybia eu bod yn angenrheidiol, yn cyfweld y myfyriwr
os bydd hynny'n briodol, ac yn penderfynu pa un o'r camau hyn y dylid eu cymryd:
1.2.i.
Anfon rhybudd ffurfiol trwy'r Cofrestrydd y bydd i'r myfyriwr, oni welir gwelliant ganddo:
naill ai
1.2.i.a.
gael ei wahardd rhag sefyll yr arholiadau, i gyd neu ran ohonynt;
neu
1.2.i.b.
gael ei orchymyn i ymadael â'r Brifysgol am gyfnod neu'n barhaol.
1.2.ii.
Cyflwyno adroddiad i'r Awdurdod Addysg Lleol neu ffynhonnell ariannol arall.
1.2.iii.
Cymeradwyo gwahardd y myfyriwr rhag sefyll yr arholiadau, i gyd neu ran ohonynt.
1.2.iv.
Gorchymyn i'r myfyriwr ymadael â'r Brifysgol am gyfnod neu yn barhaol.
1.3.
Bydd myfyriwr a geir yn "Anfoddhaol" yn ystod y trydydd tymor yn cael cyfweliad gan y Deon yn unol â 3.2 (a)
uchod. Ni fydd myfyriwr o'r fath yn cael ei wahardd rhag unrhyw arholiad ar ddiwedd y sesiwn ond bydd y Deon yn rhoi
gwybod i'r myfyriwr y bydd y Bwrdd Arholi Cyfadrannol perthnasol yn ystyried unrhyw adroddiad adrannol ar ddiwedd y
sesiwn. Bydd y Deon, lle y bo'n briodol, yn rhoi gwybod i'r myfyriwr y gall y Bwrdd Arholi Cyfadrannol ei gofnodi'n
"Anfoddhaol" a phenderfynu Na Ddylid Caniatá;u iddo/i Ddychwelyd i'r Brifysgol gan ddibynnu ar unrhyw amod ynglyn â
chyflwyno gwaith ysgrifenedig sy'n hwyr neu ar sefyll profion adrannol ychwanegol yn ôl gofynion y Bwrdd.
1.4.
Y dyddiad olaf y gall Deon wahardd myfyriwr o'r Brifysgol neu gymeradwyo penderfyniad Adran i beidio â
chofrestru myfyriwr ar gyfer arholiadau yw diwrnod cyntaf y trydydd tymor.
1.5.
Ni ellir penderfynu gwahardd myfyriwr rhag cael ei gofrestru ar gyfer arholiad am resymau academaidd ond wedi
ymgynghori â'r Deon ac wedi derbyn ei gymeradwyaeth.
1.6.
Bydd y Deon yn hysbysu'r myfyriwr a'r Cofrestrydd ynglyn â'i benderfyniad ym mhob achos.
1.7.
Bydd y Cofrestrydd yn hysbysu'r myfyriwr trwy lythyr ymhen saith niwrnod o benderfyniad y Deon a hawl y
myfyriwr i apelio.
1.8.
Y mae gan y myfyriwr bedwar diwrnod ar ddeg i gyflwyno apêl.
1.9.
Ni chaiff myfyriwr apelio ond ar sail amgylchiadau personol eithriadol nad oeddynt yn hysbys i'r Deon pan
penderfynwyd peidio â chofrestru'r myfyriwr ar gyfer arholiadau neu ei wahardd o'r Brifysgol. Mewn achosion felly,
ni chaiff yr apêl ei hystyried os na all y myfyriwr roi rhesymau da pam na roddwyd gwybod eisoes am sail yr apêl i'r
adran berthnasol neu i'r Deon.
1.10.
Bydd y Pwyllgor Cynnydd Academaidd yn ystyried pob apêl. Os yw myfyriwr/myfyrwraig wedi apelio yn erbyn
penderfyniad y Deon i'w wahardd/gwahardd o'r arholiadau neu o'r Brifysgol, bydd gan y myfyriwr hwnnw/y fyfyrwraig honno
yr hawl i ddod gerbron y Pwyllgor. Gall ddod yng nghwmni unigolyn o'i ddewis/o'i dewis, e.e. cyd-fyfyriwr/fyfyrwraig
(a gofrestrwyd yn y Brifysgol) neu Swyddog Sabothol yn Urdd y Myfyrwyr neu aelod o'r staff academaidd.
Os yw'r unigolyn
hwnnw'n gweithredu fel cynrychiolydd cyfreithiol rhaid rhoi gwybod i'r Brifysgol o leiaf dri diwrnod gwaith cyn dyddiad
y Pwyllgor.
1.11.
Bydd y Pwyllgor yn hysbysu'r myfyriwr o fewn saith niwrnod ynglyn â chanlyniad yr apêl.