Bydd Byrddau Arholi'r Cyfadrannau'n penderfynu pa fyfyrwyr mewn canlyniad i'w gwaith yn yr arholiad a gofnodir fel a ganlyn:
1.1.a.
Heb ganiatâd i ddychwelyd i'r Brifysgol.
1.1.b.
A chaniatâd iddynt ddychwelyd i'r Brifysgol i barhau â'u hastudiaethau yn amodol ar eu gallu i roi sicrwydd ariannol boddhaol.
1.1.c.
A chaniatâd i ail-eistedd fel achosion arbennig.
2.
Bydd y Cofrestrydd yn hysbysu'r myfyriwr ynglyn â'r hyn a benderfynwyd gan Fwrdd Arholi'r Gyfadran. Dylai'r llythyr hysbysu'r myfyriwr yn ogystal ynglyn â'i hawl i apelio i'r PCA a bod yn rhaid i'r apêl fod yn ysgrifenedig a chyrraedd y Cofrestrydd heb fod yn hwyrach na phedwar diwrnod ar ddeg wedi dyddiad llythyr y Cofrestrydd, a dylid cynnwys y datganiad canlynol yn y llythyr:
"Dylai myfyrwyr nodi bod ganddynt hawl i apelio yn erbyn penderfyniad Bwrdd Arholi'r Gyfadran. Mae'n rhaid anfon unrhyw apêl yn erbyn penderfyniad yn ysgrifenedig at y Cofrestrydd fel y bo'n ei gyrraedd ddim mwy na phedwar diwrnod ar ddeg wedi dyddiad y llythyr hwn. Y mae'r Brifysgol yn barod i ystyried yn unig y cyfryw apeliadau sydd wedi eu seilio ar amgylchiadau personol eithriadol nad oeddynt yn hysbys ar adeg yr arholiad i'r Adran neu i Fwrdd Arholi'r Gyfadran briodol ac y gellir dangos iddynt andwyo gwaith yr ymgeisydd yn yr arholiad.
Ni fydd y Brifysgol yn ystyried apêl ond pan fydd myfyriwr yn medru rhoi rheswm da paham na roddwyd gwybod i'r Bwrdd Arholi Adrannol neu Gyfadrannol perthnasol am sail yr apêl cyn iddo wneud ei ddyfarniad.
Bydd hawl gan fyfyrwyr ofyn am brawf o'r ffaith fod amgylchiadau perthnasol y gellid bod wedi cael effaith andwyol ar eu perfformiad yn yr arholiad, ac y rhoddwyd gwybod amdanynt o'r blaen i adrannau, wedi cael eu hystyried gan y Byrddau Arholi dan sylw".
O dderbyn apêl, bydd y Cofrestrydd yn gofyn i Gadeirydd y Bwrdd Arholi wirio'r ffeithiau perthnasol. Bydd y Cadeirydd yn gofalu eu gwirio mewn pryd er mwyn iddynt gael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Cynnydd Academaidd.
O dderbyn apêl, bydd y Cofrestrydd yn ysgrifennu at y myfyriwr i holi a ydyw ef neu hi'n dymuno ymddangos yn bersonol gerbron y Pwyllgor Cynnydd Academaidd ac, os felly, a yw'n dymuno cael cwmni unigolyn o'i ddewis/o'i dewis, e.e. cyd-fyfyriwr/fyfyrwraig (a gofrestrwyd yn y Brifysgol) neu Swyddog Sabothol yn Urdd y Myfyrwyr neu aelod o'r staff academaidd.
Os yw'r unigolyn hwnnw'n gweithredu fel cynrychiolydd cyfreithiol rhaid rhoi gwybod i'r Brifysgol o leiaf dri diwrnod gwaith cyn dyddiad y Pwyllgor.