1.Dim ond os llwydda myfyriwr ymchwil uwchraddedig i wneud cynnydd derbyniol fel a ddangosir gan gynnydd boddhaol mewn
perthynas â'r rhaglen waith a'r amserlen a gytunir gan y goruchwyliwr, gan gynnwys cyflwyno drafftiau ysgrifenedig o fewn
amserau penodol, y caniateir iddo ef/hi barhau â'r cwrs a gymeradwywyd ar ei g/chyfer.
2. Gallai myfyriwr ymchwil uwchraddedig sy'n dangos cynnydd academaidd anfoddhaol gael ei:
(a) rwystro rhag mynd ymlaen wedi'r cyfnod prawf;
(b) wrthod rhag cael caniatâd i barhau i'r flwyddyn nesaf o ymchwil;
(c) wahardd rhag uwchraddio o Ymchwil Meistr i Ddoeuthuriaeth.
3. Bydd gan y Deoniaid, ar argymhelliad yr Adran/Bwrdd Arholi/Pwyllgor Arolygu Ymchwil y Gyfadran/Bwrdd Graddau
Ymchwil, yr hawl i ofyn i fyfyriwr nad yw'n dangos perfformiad academaidd boddhaol gael ei:
(a) rwystro rhag mynd ymlaen wedi'r cyfnod prawf;
(b) wrthod rhag caniatâd i barhau i'r flwyddyn nesaf o ymchwil;
(c) wahardd rhag uwchraddio o Ymchwil Meistr i Ddoethuriaeth;
(ch) israddio o Ddoethuriaeth i Ymchwil Meistr.
Gall gofynion o'r fath fod naill ai'n ddiamod neu'n amodol ar y myfyriwr mewn golwg yn methu â chydymffurfio ag un o'r gofynion mewn perthynas â'i
h/astudiaethau ef/hi a osodir gan Bwyllgor Arolygu Ymchwil y Gyfadran/y Bwrdd Graddau Ymchwil.
Rhoddir gwybod i'r myfyriwr drwy lythyr am y penderfyniad hwn.
Pwyllgorau Arolygu Ymchwil Y Gyfadran/Y Bwrdd Graddau Ymchwil
6.
1. Bydd y Bwrdd Graddau Ymchwil yn penderfynu ar gynnydd myfyrwyr ymchwil uwchraddedig gan ystyried adroddiadau gan bwyllgorau arolygu adrannol
a chan Bwyllgorau Arolygu Ymchwil y Cyfadrannau.
2. Mae gan fyfyriwr gyfnod o fis o ddyddiad y llythyr (5.3 uchod) i gyflwyno apêl ysgrifenedig yn erbyn penderfyniad gan Bwyllgor Arolygu Ymchwil
y Gyfadran/y Bwrdd Graddau Ymchwil.
3. Rhaid i apêl o'r fath fod wedi ei seilio ar:
naill ai: 1. amgylchiadau personol eithriadol nad oeddent yn hysbys i'r Pwyllgor pan wnaethpwyd y penderfyniad;
or 2. anawsterau gyda chyfleusterau ymchwil neu drefniadau goruchwylio na nodwyd yn flaenorol wrth yr adran neu'r Pwyllgor.
DS Yn y ddau achos hyn dim ond os gall y myfyriwr gynnig rheswm da dros beidio â chyflwyno'r rhesymau
a ddefnyddir i apelio i'r adran neu'r Pwyllgor ynghynt yr ystyrir apêl.
Apeliadau Yn Erbyn Penderfyniad Pwyllgorau Arolygu Ymchwil Y Gyfadran/Bwrdd Raddau Ymchwil
6.
1. Ar gyfer y pwrpas hwn o wrando ar apeliadau o dan yr adran hon o'r Rheoliad Academaidd bydd y Pwyllgor Cynnydd Academaidd (gweler paragraff 2 uchod) yn
cynnwys ymysg ei aelodau Y Cyfarwyddwr Astudiaethau Uwchraddedig.