Rheoliadau Academaidd
Adolygiad Annibynnol
Ar ôl mynd drwy’r holl weithdrefnau mewnol, caiff ymgeisydd gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol. I wneud cwyn, mae’n rhaid llenwi ffurflen gais gyda’r holl wybodaeth berthnasol a’i hanfon i Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol o fewn tri mis o’r dyddiad a roddir ar y Llythyr Cwblhau Gweithdrefnau, a fydd yn cael ei anfon gan y Brifysgol ar ôl i’r gweithdrefnau mewnol ddod i ben. Ceir ffurflen gais oddi wrth yr Ysgrifennydd Academaidd, neu o wefan Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol www.oiahe.org.uk neu drwy ffonio neu ysgrifennu i Swyddfa’r Dyfarnwr Annibynnol yn y cyfeiriad isod:
OIAHE,5th Floor,
Thames Tower,
Station Road,
Reading,
RG1 1LX.
Ffôn: 0118 959 9813
Ebost: enquiries@oiahe.org.uk